Datganiad I'r Wasg
Helpu i achub ein gwenoliaid duon – agor pennod newydd yn Llyfrgell Pontardawe
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
01 Mai 2025
Bu sgrechfeydd llawen y wennol ddu fry ar yr adain yn nodwedd o’n hafau ers cannoedd o flynyddoedd, ond nawr mae’r hen ymwelydd mewn perygl o ddiflannu’n llwyr o’n hawyr.
Fel rhan o ymdrech genedlaethol i helpu i gynyddu niferoedd y wennol ddu, mae tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cydweithio gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd y cyngor i godi blychau gwenoliaid duon ar Lyfrgell Pontardawe.
Bydd y rhain yn darparu lle ychwanegol i hyd at 10 pâr o wenoliaid duon fagu, i helpu i fynd i’r afael â cholli safleoedd nythu traddodiadol mewn adeiladau dros amser maith. Mae’r blychau’n ateb dynol i golli lleoliadau nythu yn ein hadeiladau, a achoswyd gan waith adnewyddu a selio bylchau mewn toeon.
Caiff y blychau eu sgriwio ar waliau allanol adeilad i ddarparu lle ble gall pâr o wenoliaid duon sy’n paru fagu’u cywion. Cynlluniwyd y blychau hyn i bara degawdau, a gellir gweld panel gwybodaeth yn y llyfrgell i esbonio beth yw gwennol ddu, a beth yw pwrpas y blychau.
Mae’r wennol ddu ar Restr Goch Adar o Bryder Cadwraethol, i gydnabod y ffaith fod poblogaethau ledled Prydain wedi disgyn gan 58% ers 1995, a 75% yng Nghymru.
Bydd y wennol ddu’n treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn dychwelyd i Brydain ym mis Mai i baru. Bydd y gwenoliaid duon yn nythu bron yn llwyr mewn adeiladau, gan ddefnyddio tyllau i fagu’u cywion. Ond gyda llawer o hen adeiladau’n cael eu hadnewyddu i wella insiwleiddio neu’n cael eu dymchwel, mae’r aderyn yn colli’i safleoedd nythu.
I sefydlu’r blychau, a osodwyd yn eu lle rai wythnosau’n ôl, fe sicrhaodd y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt arian oddi wrth Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Bwriad y gronfa hon yw gwneud ardaloedd lleol yn fyw cyfeillgar i natur a chodi ymwybyddiaeth preswylwyr o fywyd gwyllt.
Mae gwaith cofnodi gan Bartneriaeth Natur Leol NPT wedi datgelu fod Pontardawe’n llecyn cyfoethog o ran gweld y wennol ddu yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Gallai darparu blychau nythu ychwanegol yn y lleoliad hwn greu cyfle hanfodol i gynyddu poblogaeth y wennol ddu.
“Bydd ymwelwyr â Llyfrgell Pontardawe hefyd yn gallu mwynhau gweld y blychau adar, a gobeithio gweld y gwenoliaid duon yn archwilio ac yn nythu yn y blychau, a dysgu mwy am yr aderyn hwn sy’n dirywio.”
Mae gan y llyfrgell adnoddau ar thema’r wennol ddu ar gyfer plant a phobl sydd â diddordeb.
Bydd y wennol ddu’n dychwelyd i Brydain ym mis Mai, yn chwilio am safleoedd i nythu a pharu dros y misoedd nesaf, cyn mudo’n ôl i Affrica tua diwedd Awst / Medi.