Datganiad I'r Wasg
Seremoni i ddadorchuddio plac ar gyfer Cyfadeilad Canolfan Hamdden, Llyfrgell a Manwerthu Castell-nedd
06 Mai 2025
Mae’i hamlinell grom a’i harwyneb gwydr syfrdanol wedi creu nodwedd ddeinamig newydd ynghanol tref Castell-nedd.
Nawr, mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, wedi dadorchuddio plac i nodi datblygu’r cyfadeilad trawsnewidiol sy’n gartref newydd i Ganolfan Hamdden, Llyfrgell a siopau yng Nghastell-nedd.
Mae’n cynnig pwll nofio 25m, pwll i ddysgwyr, campfa â lle i 100 ymarfer, ystafell ager, swît iechyd, llyfrgell fodern a chyfleusterau eraill yng nghanol Castell-nedd.
Ac mae’r adran fanwerthu wedi denu bar a bwyty poblogaidd Cadno Lounge a’r archfarchnad nwyddau cartref, hamdden a gardd The Range gyda del a siop goffi, siop / bwtic gemwaith ac atyniad chwarae meddal i blant wedi ymrwymo i ddod yn fuan.
Mae ymweliadau â chanol y dref wedi cynyddu ers adeiladu’r cyfadeilad, ac mae tîm Celtic Leisure wedi cadarnhau fod aelodaeth yn y ganolfan hamdden wedi cynyddu 100% o’i gymharu â’r hen adeilad ar Heol Dyfed, ac mae cyfraddau cyfranogi wedi dyblu.
Yn y seremoni ddadorchuddio ddydd Gwener 2 Mai 2025, dywedodd y Cyngh Hunt: “Er bod ein Canolfan Hamdden a Llyfrgell ragorol newydd wedi bod yn cael eu defnyddio ers tro, chawson ni ddim ‘agoriad swyddogol’ eto. O ystyried y gwahaniaeth cadarnhaol mae hyn wedi’i wneud i ganol tref Castell-nedd a’r fwrdeistref sirol yn ehangach, roeddwn i’n awyddus i nodi’r agoriad a gweld plac yn cael ei osod i gydnabod y partneriaid allweddol fu’n rhan o gyflawni hyn oll.
“Roedd y ‘weledigaeth’ yn glir o’r dechrau’n deg – seiliwyd hyn o gwmpas darparu cyfadeilad amlddefnydd reit wrth galon Castell-nedd a fyddai’n rhoi bywyd newydd i ganol y dref, dod â phobl i mewn (yn breswylwyr ac ymwelwyr), cyd-fynd â busnesau oedd yma’n barod a sbarduno busnesau newydd, denu mwy o fuddsoddiad a hybu llesiant a chreu mannau newydd ble gallai pobl gwrdd a chymdeithasu.”
Ymysg yr ymwelwyr â’r seremoni roedd cynrychiolwyr prif gontractwyr y prosiect, Kier Construction, yr ymgynghorwyr Faithful and Gould, aelodau a swyddogion o gyngor Castell-nedd Port Talbot gan gynnwys y Prif Weithredwr Frances O’Brien, Aelod o’r Senedd dros Gastell-nedd ac Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, Maer Cyngor Tref Castell-nedd y Cynghorydd Paul James, a chynrychiolwyr o fusnesau a sefydlwyd yn adran fanwerthu’r cyfadeilad.
Cafodd y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy fenter Trawsnewid Trefi, sy’n gobeithio helpu canol trefi ledled Cymru i oroesi yn wyneb y twf enfawr mewn siopa ar lein a’r newid yn y ffordd rydyn ni’n defnyddio canol ein trefi.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd, Julie James AoS: “Rydyn ni eisiau gweld canol trefi a dinasoedd ledled Cymru’n dod yn galon hyfyw cymunedau Cymru, ble gall pobl ddefnyddio gwasanaethau, siopau a mannau cyfun a diwylliannol.
“Drwy gyfrwng ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydyn ni’n darparu miliynau o bunnoedd i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol ein trefi a’n dinasoedd ymhellach.
“Mae ein polisi Canol Trefi’n Gyntaf, a sefydlwyd yng nghynllun datblygu cenedlaethol Cymru, Cymru’r dyfodol, yn golygu y dylai safleoedd ynghanol trefi a dinasoedd gael eu hystyried gyntaf ar gyfer pob penderfyniad sy’n ymwneud â lleoli gweithleoedd a gwasanaethau.”