Datganiad I'r Wasg
Gwaith i ddechrau ar brosiect adfywio mawr i Ganol Tref Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 12 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
16 Mai 2025
Bydd gwaith ar brosiect trawsnewidiol i ddiweddaru ac adnewyddu Sgwâr Dinesig Port Talbot a Theatr y Dywysoges Frenhinol gerllaw yn bwrw iddi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 26 Mai, 2025.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penodi’r arbenigwyr adeiladu Morgan Sindall Construction fel prif gontractwyr y prosiect, gyda’r nod o adfywio canol y dref a gwella cyfleusterau allweddol.
Pwyntiau allweddol:
- Nid yw’r Ganolfan Ddinesig ei hunan yn rhan o’r prosiect adfywio, felly bydd mynediad ar gael i’n cwsmeriaid drwy gydol cyfnod gwneud y gwaith.
- Disgwylir y bydd mwy o sŵn o ganlyniad i’r gwaith adeiladu.
- Bydd parcio cyhoeddus yn dal i’w gael ym ‘maes parcio uchaf’ y ganolfan ddinesig, cyn y bariwns
Amcan y prosiect adfywio, a ariennir gan Lywodraeth y DU, yw adnewyddu a moderneiddio lleoliad 798 sedd Theatr y Dywysoges Frenhinol drwy wella profiad y cwsmer gyda chaffis newydd, estyniad i dalcen de-orllewinol yr adeilad, gwedd newydd i ardal weini’r bar, a mynedfa i’r awditoriwm gyda chyntedd mawr, modern.
Ymysg ychwanegiadau eraill bydd cyfleusterau cynadledda gwell, ailfodelu pwll cerddorfa brafiach, gwell sain a golau, ynghyd â gwelliannau technegol a gynlluniwyd er mwyn gallu cynnal ystod ehangach o gynyrchiadau yn y theatr boblogaidd.
Hefyd bydd Sgwâr Dinesig Port Talbot yn trawsnewid i fod yn lle cymunedol amlbwrpas gyda nodweddion fel seddi newydd a llecynnau glas a fydd yn cael eu gwella’n sylweddol gyda llawer iawn o blannu coed a llwyni.
Bydd y gwaith ‘glasu’ i’r Sgwâr Dinesig yn golygu cynnydd o 70% mewn coed a bydd yr ardal hefyd yn elwa o ‘erddi glaw’ – mannau glas a gynlluniwyd yn benodol i ddal ac amsugno dŵr glaw sy’n rhedeg oddi ar y tir a’r adeiladau.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun, y Cyngh Scott Jones: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi cydweithrediad ac amynedd pobl wrth i ni ddechrau’r gwaith o wella a thrawsnewid ardal canol tref Port Talbot.
“Rydyn ni eisiau i’n preswylwyr a’n cwsmeriaid gael yr holl wybodaeth am fynediad i’n cyfleusterau allweddol, ac unrhyw darfu posib, yn ystod cyfnod gwneud y gwaith, felly cadwch lygad am bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau eraill gan y cyngor.”