Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Prosiect i Leddfu Pwysau gan Ymwelwyr mewn pentref yng Ngwlad y Sgydau i ddechrau yn ystod yr haf eleni

20 Mai 2025

Mae prosiect i greu cyfleusterau newydd i leddfu’r pwysau mae ymwelwyr yn ei greu ym Mhontneddfechan, sy’n rhan o Wlad y Sgydau syfrdanol o hardd, yn dechrau ym mis Mehefin eleni.

Pontneddfechan1

Dyma uchafbwyntiau allweddol y prosiect:  

  • Darparu ateb parhaol i’r broblem barcio: gwell rheolaeth o effeithiau ymwelwyr ar Bontneddfechan. 
  • Gwell Toiledau Cyhoeddus: cyfleusterau newydd a gwell i bawb.  
  • Siop Fferm / Gymunedol: Cefnogi busnesau lleol a’r gymuned. 
  • Llety Gwyliau i Ymwelwyr ar raddfa fach: dewisiadau cyffyrddus ar gyfer arhosiad pleserus i deuluoedd ac unigolion
  • Diogelwch y Ffyrdd a Thirlunio: Gwella’r parth cyhoeddus i greu amgylchedd mwy diogel a phleserus.  
  • Parc Chwarae: Creu lle hwyliog a diogel ble gall plant chwarae.

Mae Gwlad y Sgydau yn ardal o fwy na dwsin o raeadrau rhwng Pontneddfechan ac Ystradfellte yn rhan dde-orllewinol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd yr ardal yn gweld torfeydd o ymwelwyr bob blwyddyn, sy’n cael effaith negyddol ar y gymuned leol o ran parcio anghyfreithlon ac anaddas, a diffyg cyfleusterau addas.

Lleolir Pontneddfechan yn agos at Sgwd Gwladys, ble bydd llawer o bobl yn ymweld.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: "Cynlluniwyd y prosiect hwn i greu datrysiad parcio parhaol i’r ardal, sydd wedi bod yn adnabyddus am ddioddef problemau difrifol gyda thrafnidiaeth yn ystod misoedd prysur yr haf, ac i ddarparu cyfleusterau y bydd ymwelwyr a’r gymuned leol yn gallu’u defnyddio.

“Er mai ein nod fydd tarfu cyn lleied â phosib yn lleol, bydd angen cyfyngu ar leoedd parcio ar hyd Heol Pontneddfechan o bryd i’w gilydd yn ystod cyfnod y gwaith adeiladu. Mae busnesau yn yr ardal yn cael gwybod yn uniongyrchol am hyn er mwyn sicrhau fod y cyfathrebu’n rhugl."

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Dwf Economaidd a Newid Hinsawdd:

“Mae’r prosiect hwn yn gam pwysig tuag at reoli gwasgfeydd a grëir gan ymwelwyr mewn modd sy’n cefnogi’r gymuned leol ac yn gwarchod yr amgylchedd. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i isadeiledd cynaliadwy sy’n gweithio er budd pawb.”

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn, ewch i: https://www.npt.gov.uk/cy/busnes/adfywio/gwlad-y-sgydau-pontneddfechan-buddsoddiad-mewn-seilwaith-ymwelwyr

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU. 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth