Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Gofalwr maeth o Gastell-nedd Port Talbot yn annog eraill i ystyried maethu yn ystod Pythefnos Gofal Maeth

14 Mai 2025

Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau sy’n para oes yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gofalwr maeth o Gastell-nedd Port Talbot yn annog eraill i ystyried maethu yn ystod Pythefnos Gofal Maeth

Mae Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch ymwybyddiaeth maethu fwyaf y flwyddyn, yn digwydd rhwng Mai 12 a Mai 25 eleni, dan y thema dathlu grym perthynas.

P’un ai a yw hynny’n gwlwm rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas a geir â gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch syn cael ei greu â gofalwyr maeth eraill mewn cymuned, mae perthynas gref ag eraill yn llinyn aur sy’n cysylltu pob stori am faethu.

Yng Nghymru, mae dros saith mil o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd sy’n maethu. Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 yn ychwanegol o ofalwyr erbyn 2026.

Rhannodd Rebecca ei stori am sawl perthynas barhaol a ffurfiodd hi o ganlyniad i faethu drwy Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Rebecca, sydd wedi bod yn ofalwr maeth ers bron i naw mlynedd: “Mae hi mor bwysig cael perthynas gyda phawb rydych hi’n gweithio gyda nhw, o’r gweithwyr cymdeithasol i’r IROs (Swyddogion Adolygu Annibynnol), i’r ysgolion, i unrhyw un sy’n ymwneud â’ch plant chi, wir. Y rhieni genedigol, brodyr a chwiorydd, pawb. Os yw pawb yn cydweithio, mae’n gwneud bywyd lawer iawn yn haws.

Gerald yw ein Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, a dwi wastad yn gwneud jôc drwy ddweud ei fod e’n rhan o’r celfi yn ein tŷ ni. Mae Gerald yno bob amser i ni ar ben arall y ffôn neu e-bost, neu bydd e’n galw i mewn os oes problem, ond mae e’n gefnogol iawn. Allwn ni ddim â diolch digon iddo fe am bopeth mae e wedi’i wneud i’n teulu ni, ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gydag e.

Pan ddechreuon ni faethu bron i naw mlynedd yn ôl, fe gymeron ni achos argyfwng, sef grŵp o ddwy chwaer, 4 a 5 oed. Roedd hi’n hynod bwysig eu cadw gyda’i gilydd oherwydd popeth roedden nhw wedi bod drwyddo yn eu bywydau byrion, ac roedd rhwymyn agos iawn rhyngddyn nhw, wrth i’r chwaer fawr edrych ar ôl y chwaer fach mewn cymaint o ffyrdd.”

Aeth Rebecca ymlaen i ddweud: “Mae’n bwysig iawn cael perthynas gyda’ch cyd-ofalwyr maeth. Mae ganddyn nhw gwestiynau y mae angen iddyn nhw gael atebion iddyn nhw, felly weithiau pan fyddwch chi’n cwrdd â Gofalwyr Maeth eraill, gallan nhw roi’r atebion sydd eu hangen arnoch chi i chi hefyd.”

Yn ôl y Cynghorydd Sian Harris, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Blant a Theuluoedd: “Mae maethu’n brofiad eithriadol o gyfoethog, all drawsnewid bywydau plant a theuluoedd maeth. Dros Bythefnos Gofal Maeth, rydyn ni eisiau tynnu sylw at bwysigrwydd y berthynas gref y gall gofalwyr maeth greu gyda phlant, gweithwyr cymdeithasol, a’r gymuned.

“Baswn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried maethu i gysylltu â’r tîm a dysgu beth mae’n ei olygu.”

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i https://cnpt.maethucymru.llyw.cymru/

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth