Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Dyfarnu £803,000 ar gyfer gwaith dylunio ar bont hanesyddol ym Mhort Talbot

05 Mehefin 2025

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael £803,000 o gyllid gan Lywodraeth y DU i wneud gwaith dylunio manwl ar gyfer prosiect Teithio Llesol arfaethedig a fydd yn cynnwys pont hanesyddol Heol Newbridge ym Mhort Talbot.

Pont Heol Newbridge

Mae'r cynllun cyffredinol arfaethedig yn cynnwys gwaith adnewyddu ar y bont rhestredig Gradd II ac ailddatblygu Ffordd y Doc gyfagos hyd at y gylchfan sy'n cysylltu Ffordd y Doc a Ffordd yr Harbwr.

Amcangyfrifir y bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £13.5m, a gaiff ei dalu drwy £12.3m o gyllid gan Lywodraeth y DU a £1.2m o arian cyfatebol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Ni chaiff cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect ei gadarnhau tan ddechrau mis Gorffennaf ar ôl adolygiad o'r gyllideb, ond bydd y cyllid ar gyfer y gwaith dylunio yn golygu y gellir dechrau ar y cynllun.

Bydd y cynllun arfaethedig yn gwneud y canlynol:

  • Gwella cysylltedd o'r dwyrain i'r gorllewin ym Mhort Talbot a lleihau'r ‘gwahanu ardaloedd’ a achosir gan Afon Afan.
  • Darparu llwybr mwy deniadol, diogel, parhaus a di-draffig, gan osgoi Heol Victoria sy'n ffordd brysur iawn.
  • Gwella cydlyniant a dwysedd y rhwydwaith teithio llesol lleol a gwella cysylltiadau â llwybr beicio cenedlaethol.
  • Annog newid tuag at ddulliau teithio llesol.
  • Diogelu'r bont restredig Gradd II sydd wedi dirywio.

Dywedodd y Cyngh. Wyndham Griffiths, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd: “Nod y fenter hon yw gwella cysylltiadau cerdded a beicio yn yr ardal drwy adfer y bont hanesyddol, a gafodd ei chau ddegawdau yn ôl, a chreu llwybrau mwy diogel a hygyrch.

“Mae'r cynllun yn cynnwys defnyddio pileri presennol y bont ar gyfer pont i gerddwyr a beicwyr, gan adfywio'r llwybr a chynnig gwell cysylltedd.”

Codwyd y bont gan Gorfforaeth Aberafan gynt, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ar 29 Hydref 1903 yn sgil ehangu dociau Port Talbot.

Mae'r bont wedi'i rhestru gan Cadw fel pont hytrawstiau plât gain sy'n anarferol ar gyfer y dyddiad hwn am gynnal ffordd strategol yn hytrach na rheilffordd. Mae'r cysylltiad â datblygiad dociau Port Talbot o ddiddordeb hanesyddol ychwanegol.

Mae bonion y polion lampau nwy gwreiddiol yn dal yn sownd ym mhileri cerrig sgwâr mawr y bont.

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth