Datganiad I'r Wasg
Dyn a ddatgelwyd mewn gweithrediad cludo gwastraff yn talu'r pris ar ôl anwybyddu Hysbysiad Cosb Benodedig
10 Mehefin 2025
Fe wnaeth dyn a ymatebodd i bostiad ar Facebook yn gofyn ar i gludwyr gwastraff trwyddedig symud gwastraff, ond y canfuwyd – ar ôl gwirio – nad oedd ganddo drwydded i wneud hynny, fethu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig (FPN) a gyhoeddwyd yn ei enw, yn ôl yr hyn a glywodd Ynadon Abertawe.
Heb yn wybod i James Joyce, 45, o Heol Llangyfelach, Abertawe, roedd y postiad ar Facebook yn rhan o Gyrch Walt – gweithred ‘pryniant prawf’ i fynd i’r afael â chludwyr gwastraff di-drwydded gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a’u partneriaid Heddlu De Cymru.
Ar ôl i Mr Joyce ymateb i’r postiad ar y cyfryngau cymdeithasol, fe aeth â’r gwastraff i ffwrdd am £40 o Weithdai Pentref Lôn-las ym mis Hydref y llynedd. Fe roddodd sicrwydd ar lafar i aelod o staff yn y gweithdy ei fod ‘yn gwneud popeth yn unol â llythyren y ddeddf’.
Ar ôl gyrru i ffwrdd gyda’r gwastraff, cafodd Mr Joyce ei stopio a siaradodd swyddogion Gorfodi Gwastraff ag ef. Gwiriwyd nad oedd ganddo drwydded i gludo gwastraff, felly rhoddwyd FPN iddo am y drosedd.
Am na dderbyniwyd taliad, ar 06/11/2024 anfonwyd llythyr atgoffa at Mr Joyce, a fethodd â chysylltu â swyddogion Gorfodi Gwastraff o gwbl, ac felly anfonwyd llythyr atgoffa terfynol allan gyda’r post dosbarth cyntaf ar 19/11/2024.
Yn ddiweddarach, a’r FPN yn dal heb ei dalu, cafodd ei erlyn am gludo gwastraff a reolir, yn groes i adran 1(5) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989.
Yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Iau 29 Mai, 2025, plediodd yn euog i’r drosedd a chafodd ddirwy o £615, gorchymyn i dalu costau o £413 a gordal dioddefwr o £246 – cyfanswm o £1,274.
Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Mae cludo gwastraff yn rhad ac anghyfreithlon gan bobl heb drwydded yn cael effaith ar yr economi leol, am ei fod yn cyflwyno cystadleuaeth annheg i fusnesau cyfreithlon, ac mae’r achos hwn yn dangos y bydd y cyngor a’i bartneriaid yn defnyddio pob grym sy’n agored iddynt i ddod ag unrhyw un sy’n symud gwastraff heb y drwydded gywir o flaen ei well.”