Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Diolch i breswylwyr a busnesau Castell-nedd Port Talbot am ffigurau ailgylchu ‘rhagorol’

11 Mehefin 2025

Mae diolch yn cael ei estyn i drigolion Castell-nedd Port Talbot am lwyddo i gyflawni cyfradd ailgylchu o 71.4%.

Briton Ferry Recycling Centre

Mae’r orchest hon yn rhoi Castell-nedd Port Talbot ymysg yr ardaloedd sy’n perfformio orau yng Nghymru, gyda Chymru’i hunan yn un o’r prif wledydd ailgylchu ar y blaned.

Bydd Llywodraeth Cymru’n gosod targedau ailgylchu sy’n gyfreithiol ymrwymol i awdurdodau lleol, gyda’r nod o gynyddu cyfraddau ailgylchu er mwyn gwarchod adnoddau naturiol cyfyng ein planed a hybu economi cylchol.

Yn 2024/25, roedd angen i gynghorau ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio o leiaf 70% o’r gwastraff a gesglid ganddynt. Llwyddodd Castell-nedd Port Talbot i gyflawni ffigwr o 71.4%, cyfradd ailgylchu uchaf erioed y fwrdeistref sirol.

Er mwyn galluogi i breswylwyr a chwsmeriaid busnes y cyngor ailgylchu gymaint â phosib, bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn:
•    Hybu mwy o ailgylchu
•    Gweithredu casgliad ar wahân ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu ar ochr y pafin.
•    Gweithredu sawl Canolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref.

Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Mae llwyddo i gyrraedd lefelau mor rhagorol o ailgylchu ond yn bosib pan fydd preswylwyr a busnesau lleol yn ateb yr her sylweddol hon.

“Mae hyn wir yn rhywbeth y gallwn fod yn hynod falch ohono. Mae preswylwyr Castell-nedd Port Talbot yn ailgylchwyr o fri. Diolch i bawb a llongyfarchiadau fil.

“Mae ailgylchu’n ein helpu i ofalu am ein hamgylchedd er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau. Rydyn ni’n becso am ein plant a phlant ein plant, a dyna pam rydyn ni, yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ailgylchu. 

“Hoffwn ddiolch hefyd i holl aelodau tîm gwastraff y cyngor. Efallai nad ydyn ni’n cael popeth yn iawn bob tro, a chyfaddefwn fod oedi gyda rhai casgliadau dros y misoedd diwethaf, ond mae’r perfformiad rhagorol hwn yn dangos fod pethau da’n digwydd pan fydd pawb yn cydweithio.

“Nawr ein bod ni wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon, diolch i ymdrechion ein preswylwyr, bydd fy ffocws i i’r dyfodol ar wella ein gwasanaethau ailgylchu beunyddiol drwy dorri’n ôl ar broblemau fel sarnu a cholli casgliadau.”

Dros y misoedd nesaf, bydd y ffigwr alldro’n mynd drwy broses graffu a gwirio gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth