Datganiad I'r Wasg
Cyfle i ddweud eich dweud ynglŷn â byw yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 7 mis oed
24 Mehefin 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd trigolion i ddweud eu dweud ynglŷn â byw yn y fwrdeistref sirol.
Mae'r cyngor wedi lansio Dewch i Sgwrsio: Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, sef arolwg i drigolion sy'n gofyn am eu safbwyntiau ar wasanaethau'r cyngor, beth ddylai blaenoriaethau'r cyngor fod, sut y byddant yn rhyngweithio â'r cyngor, a'u profiad o fyw yn eu hardal leol.
Dywedodd y Cyngh. Simon Knoyle, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae'r cyngor yn darparu cannoedd o wasanaethau sy'n cyffwrdd â bywydau beunyddiol pobl. Rydyn ni'n annog trigolion i gwblhau ein harolwg er mwyn rhannu eich meddyliau ynglŷn â'r gwasanaethau sydd bwysicaf i chi.
“Bydd yn cymryd tua 10 munud i gymryd rhan yn yr arolwg a bydd eich adborth yn ein helpu i fesur i ba raddau y mae ein gwasanaethau yn diwallu anghenion ac yn bodloni disgwyliadau, a bydd yn cael ei ystyried wrth gynllunio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol.”
Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Sul, 10 Awst 2025. Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ac sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot gymryd rhan.
Y ffordd gyflymaf o gymryd rhan yw gwneud hynny ar-lein yn www.npt.gov.uk/cy/ymgynghoriadau
Bydd holiaduron wedi'u hargraffu hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd yn y fwrdeistref sirol, yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd neu yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot.
Gall unrhyw drigolion na allant gwblhau'r arolwg ar-lein na chasglu copi papur e-bostio: sgwrsio@npt.gov.uk, tecstio'r geiriau ‘Arolwg Papur’ a'ch enw a'ch cyfeiriad i 07805 771506, neu ffonio 07805 771506 a gadael eich enw a'ch cyfeiriad ar ôl y bîp.
Mae Dewch i Sgwrsio: Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn rhan o arolwg trigolion cenedlaethol a ddatblygwyd gan Data Cymru, mewn cydweithrediad â Rhaglen Wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau lleol ledled Cymru, er mwyn ymgysylltu'n well â chymunedau a gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.