Datganiad I'r Wasg
Ceisio cymeradwyaeth i osod y Placiau Glas cyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae'r erthygl hon yn fwy na 12 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
03 Gorffennaf 2025
Ceisir cymeradwyaeth ar gyfer dau Blac Glas i goffáu'r seren Hollywood o Bort Talbot, Richard Burton, a Philip Burton, yr ysgolfeistr diwylliedig a thad mabwysiadol Richard yn ddiweddarach, a'i sbardunodd tuag at enwogrwydd.
Gofynnir hefyd am gymeradwyaeth i drydydd Plac Glas arfaethedig ym Mhort Talbot i anrhydeddu’r dafarn hynaf sy'n dal ar agor yn y dref ddur, sef y Somerset Arms.
Os cânt eu cymeradwyo yn nes ymlaen y mis hwn, y teyrngedau hyn fydd y cyntaf i ddeillio o Gynllun Placiau Glas Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a lansiwyd y llynedd er mwyn dathlu pobl, lleoedd a digwyddiadau enwog CNPT – fel rhan o Strategaeth Treftadaeth y cyngor ar gyfer y cyfnod 2024-2039 (Adfer, Adfywio, Addasu).
Caiff y tri chais am Blaciau Glas eu cyflwyno am gymeradwyaeth ar 10 Gorffennaf 2025.
Os caiff y ceisiadau eu cymeradwyo, caiff plac ei osod i goffáu Richard Burton yn ei bentref genedigol, sef Pont-rhyd-y-fen, a chaiff ail blac ei osod yn Nhai-bach, lle y cafodd yr actor ei fagu, i goffáu ei fentor Philip Burton.
Bwriedir i'r placiau hyn goffáu'r bobl a'r lleoedd sy'n rhan annatod o stori Richard Burton ac, os cânt eu cymeradwyo, y nod fydd iddynt ddod yn dirnodau pwysig ar Lwybrau Richard Burton yng Nghastell-nedd Port Talbot, a ddatblygwyd i drigolion ac ymwelwyr eu darganfod a'u mwynhau.
Ceisir cymeradwyaeth hefyd i gais gan Grŵp Cymunedol The Friends of The Sker am Blac Glas i dafarn y Somerset Arms yn Nhai-bach, sef y dafarn hynaf ym Mhort Talbot sy'n dal i wasanaethu'r gymuned ers dros 200 mlynedd ac sy'n ased cymunedol allweddol.
Mae'r cais yn aros am gydsyniad gan fragdy'r Somerset Arms, a fydd yn amod hanfodol ar gyfer unrhyw gymeradwyaeth. Caiff y dafarn boblogaidd ar Commercial Road, Tai-bach, ei galw'n lleol yn “The Sker”.