Datganiad I'r Wasg
Cynllun Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn Lansio Ledled Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe
Mae'r erthygl hon yn fwy na 8 mis oed
03 Gorffennaf 2025
Mae dull arloesol o roi gofal i oedolion wedi lansio'n swyddogol ledled Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg yn paru oedolion y mae angen cymorth arnynt â gofalwyr sy'n eu croesawu i mewn i'w cartrefi eu hunain i fod yn rhan o'u teuluoedd. Mae'r cynllun yn debyg i faethu, ond ar gyfer oedolion.
Boed am ychydig oriau yn ystod y dydd, neu ar gyfer seibiant byrdymor neu ofal hirdymor, mae Cysylltu Bywydau yn cynnig dewis arall yn lle dulliau traddodiadol fel gofalwyr sy'n byw gyda'u cleientiaid, trefniadau byw â chymorth, neu ofal preswyl.
Mae'r cynllun yn cefnogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o anghenion, gan gynnwys amhariadau corfforol, amhariadau ar y synhwyrau, amhariadau dysgu, anghenion cymorth iechyd meddwl, dementia, a heriau sy'n gysylltiedig ag oedran.
Fel rhan o'r lansiad, mae'r cynllun wrthi'n recriwtio gofalwyr newydd ledled y rhanbarth. Gall gofalwyr ennill dros £500 yr wythnos a byddant yn cael hyfforddiant llawn a chymorth parhaus. Nid oes angen cymwysterau penodol—dim ond y gwerthoedd cywir, cartref croesawgar, ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ym mywyd rhywun.
Dywedodd y Cynghorydd Jo Hale, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Bydd Cysylltu Bywydau yn aml yn gynllun sy'n newid bywydau – nid dim ond i'r bobl sy'n derbyn gofal, ond hefyd i'r gofalwyr eu hunain.”
“Drwy agor eich cartref, byddwch yn cynnig mwy na gofal yn unig – byddwch yn rhoi cyfle i rywun fod yn rhan o deulu, mwynhau profiadau newydd, a ffurfio cydberthnasau a fydd yn para.
“Rydyn ni'n annog mwy o bobl sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr Cysylltu Bywydau i wneud cais. Fe gewch chi hyfforddiant llawn, cymorth, a thâl, a byddwch yn elwa mewn llawer mwy o ffyrdd nag arian yn unig.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Gofal, y Cyngh. Louise Gibbard: “Daw gofalwyr Cysylltu Bywydau o bob cefndir, ond yr hyn sy'n eu huno yw eu brwdfrydedd, eu hymroddiad, a'u hawydd i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau pobl. Mae'r cynllun hwn yn cynnig cyfle iddyn nhw wneud hynny—drwy helpu oedolion i ddod yn fwy annibynnol, i wneud ffrindiau, i ddysgu sgiliau newydd, ac i gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau. Rydyn ni'n falch o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflwyno'r gwasanaeth gwerthfawr hwn i'n trigolion.”
Mae gwefan newydd bellach ar gael, sy'n cynnig rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais i ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau.
I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://westglamorgansharedlives.co.uk/cy