Datganiad I'r Wasg
Diweddariad teithio pwysig - gwaith systemau draenio Fabian Way
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
02 Gorffennaf 2025
Bydd gwaith hanfodol i wella draeniad yn dechrau heddiw (2 Gorffennaf) ar Ffordd Fabian rhwng Cyffordd Jersey Marine (Cylchfan Amazon) a ffordd fynediad yr M4.
Bydd y ddwy lôn yn parhau i fod ar agor yn ystod oriau prysuraf, er y bydd terfyn cyflymder is yn weithredol drwy’r amser ar gyfer y ddwy lôn.
Gweithredir terfyn cyflymder o 40mya tan 21 Gorffennaf pan fydd yn cael ei ostwng i 30mya tan i’r gwaith ddod i ben ym mis Rhagfyr.
Yn ystod oriau llai prysur (9.30-15.00), bydd un lôn ar gau wrth i gontractwyr weithio ar y briffordd.
Bydd y ddwy lôn ar agor dros y penwythnos i ddod (5-6 Gorffennaf) i hwyluso trafnidiaeth sy’n teithio i Sioe Awyr Cymru.
Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn. Gwneir pob ymdrech i leihau amharu arnoch, ac i gynnal llif y traffig ble bo’n bosib.
Nod y gwaith hwn, a gefnogir gan Gronfa Ffyrdd Gwydn Llywodraeth Cymru, fydd mynd i'r afael â llifogydd mynych sy'n effeithio ar y ffordd, y cilfannau a'r llwybr beicio – gan helpu i wella diogelwch a lleihau tarfu yn y tymor hir.