Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Castell-nedd Port Talbot yn Dathlu Llwyddiannau o Bwys Gyda Chronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF)

17 Gorffennaf 2025

Clustnodwyd dros £30 miliwn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot dros y tair blynedd ddiwethaf drwy gyfrwng ei raglen fuddsoddi Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF).

UKSPF4

Rhwng 2022 a 2025, mae wedi darparu manteision o bwys i fusnesau, cymunedau a phreswylwyr ledled Castell-nedd Port Talbot.

Menter a ariennir gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yw UKSPF. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb a gwella cyfleoedd bywyd drwy fuddsoddi mewn cymunedau, busnesau, a phobl a sgiliau.

Penawdau’r hyn a gyflawnwyd gyda chefnogaeth UKSPF yn CNPT yn 2022-25:

  • 940 busnes wedi derbyn cefnogaeth nad yw’n ariannol; rhoddwyd grantiau i 277 a chrëwyd 44 menter newydd.
  • Crëwyd 271 swydd gyfwerth â llawn amser a diogelwyd 490.
  • Cefnogodd gwasanaethau cyflogadwyedd nifer fawr o bobl i ddod o hyd i waith – mae 166 o bobl bellach mewn gwaith oherwydd y gefnogaeth hon, ac enillodd 1,092 gymwysterau, trwyddedau a sgiliau.
  • Mae 84 sefydliad wedi derbyn grantiau; cefnogwyd 22 digwyddiad neu weithgaredd lleol, a gosodwyd 3,414 eitem o isadeiledd ynni carbon isel neu sero.
  • Cymerodd nifer o breswylwyr ran yn y rhaglen rifedd Multiply – llwyddwyd i ennill dros fil o gymwysterau. Dyfarnwyd grantiau i 66 sefydliad.
  • Llwyddodd rhaglen Cymoedd a Phentrefi, gyda chefnogaeth buddsoddiad UKSPF i wella neu gefnogi 47 cyfleuster, a helpu i ddatblygu neu adnewyddu 28 adeilad masnachol.
  • Cefnogwyd 1,676 o bobl i gael mynediad i hyfforddiant sgiliau sylfaenol, tra cafodd 1,368 o bobl gefnogaeth i gymryd rhan mewn addysg.

Ymysg rhai’n unig o blith y llu prosiectau lleol a gefnogwyd gan arian UKSPF yn 2022-25 roedd Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd (16-24 Hydref, 2024), Prosiect Cyfeillion Blaendulais (Cyfleuster Seiclo Cymunedol), caffi artisan yr Old Railway Tavern/Booths by the Bridge, gosod Tyrbin Dŵr ym Mhlasty a Lleoliad Digwyddiadau Plas Cilybebyll yng Nghwm Tawe, a gosod camerâu cylch cyfyng (CCTV) i wella diogelwch y cyhoedd yn ardaloedd Llansawel a Phontardawe. 

Darparodd Prifysgol Abertawe gyrsiau byrion oedd yn gysylltiedig â sgiliau sero net (prosiect 

SWITCH On Skills), darparodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot raglen brentisiaethau dan arweiniad rhaglen gyflogadwyedd, darparwyd cyfleoedd i bobl wneud gwaith am dâl, a hefyd fe weithiodd y cyngor gyda Grŵp Colegau NPTC i gefnogi ein pobl ifanc i symud i hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae’r prosiectau UKSPF yn ychwanegol at gymorth gwerth miliynau lawer o bunnoedd o gyfrannau eraill o arian oddi wrth Lywodraeth San Steffan, y Gronfa Codi’r Gwastad (LUF). Ymysg prosiectau LUF yn 2022-25 bu diweddariad o bwys i Barc Gwledig Gnoll, rhaglen arfaethedig fawr i leihau pwysau gan ymwelwyr ym Mhontneddfechan yng Ngwlad y Sgydau, ac adfywio Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot a’r Sgwâr Dinesig cyfagos, y mae gwaith newydd ddechrau arno.

Nawr, mae’r cyngor yn edrych ymlaen at Flwyddyn Bontio UKSPF 2025-26, gan adeiladu ar y momentwm hwn i sicrhau y gwelir hyd yn oed mwy o fanteision cymunedol.

Dywedodd Cynghorydd Castell-nedd Port Talbot a’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, Jeremy Hurley: “Drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, nid yn unig rydyn ni wedi cefnogi ein busnesau lleol a chreu swyddi, rydyn ni hefyd wedi meithrin ymdeimlad o gymuned a gwytnwch.

“Mae’r llwyddiannau a welsom yn dyst i waith caled ac ymroddiad pawb a fu’n rhan o’r gwaith. Wrth i ni symud i’r flwyddyn bontio, rydyn ni wedi ymroi i adeiladu ar y llwyddiant hwn, a sicrhau fod Castell-nedd Port Talbot yn parhau i ffynnu.”

Mae ceisiadau ar gyfer grantiau UKSPF wedi cau ar gyfer blwyddyn 2025 - 26 bellach, a chyhoeddir y prosiectau llwyddiannus dros yr wythnosau nesaf.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth