Datganiad I'r Wasg
Marchnad Castell-nedd yn croesawu’r stondin newydd ddiweddaraf – Lively Lazer
Mae'r erthygl hon yn fwy na 10 mis oed
15 Gorffennaf 2025
Mae stondin newydd, Lively Lazer, sy’n arbenigo mewn dillad ac anrhegion a addaswyd yn unigryw, wedi agor ym Marchnad Castell-nedd ar 2 Gorffennaf 2025.
Gellir dod o hyd i’r busnes newydd yn Stondin 2, ac mae’n dilyn agoriad diweddar Goblin Box, sy’n gwerthu citiau modelau hanesyddol ac sy’n cynnig bar hobïau i gwsmeriaid, a stondin harddwch aeliau a blew amrannau Rani’s Brow and Eyelash Lounge, Clucky’s Cards; a Lal’s Clothing and Accessories.
Lleolir Marchnad Castell-nedd, marchnad dan-do draddodiadol sy’n dyddio’n ôl i 1837, ynghanol Castell-nedd gerllaw maes parcio aml-lawr y dref, ac mae ar agor rhwng 8.30am – 5pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Yn ôl perchennog Lively Lazer, Charlotte Bellett: “Busnes addasu ydyn ni, ac rydyn ni’n cynnig eitemau wedi’u hargraffu a’u haddasu’n unigryw fel crysau-t, hetiau, mygiau, cwpanau a llawer mwy, ac rydyn ni’n engrafu a thorri eitemau yn unol ag archeb y cwsmer.
“Rydyn ni’n cynnig cynnyrch wedi’i addasu i unigolion yn ogystal â chwmnïau bychain, ac rydyn ni’n gobeithio gwneud gwaith i dimau chwaraeon a grwpiau eraill tebyg.”
Dywedodd Cynghorydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, Jeremy Hurley: “Hoffem estyn croeso cynnes i Lively Lazer, a fydd yn ychwanegiad gwerthfawr i’r gymysgedd o fusnesau sy’n gweithredu’n barod ym Marchnad Castell-nedd, lle sydd wedi bod yn nodwedd eiconig i ganol tref brysur Castell-nedd ers degawdau lu.”