Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Canghellor y DU a Phrif Weinidog Cymru yn ymweld â Chastell-nedd Port Talbot

08 Awst 2025

Mae Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi ymweld â Chastell-nedd Port Talbot i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar brosiect diogelwch tomen lo a chwrdd â phobl y mae cau'r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Port Talbot wedi effeithio arnynt.

Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, gyda'r Prif Weinidog Eluned Morgan (canol) a'r Canghellor Rachel Reeves

Ddydd Iau, 7 Awst 2025, ymwelodd y Canghellor â safle gwaith sy'n cael ei arwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyda'r contractwr Walters UK i sefydlogi tomen lo yn hen Bwll Glo Dyffryn Rhondda ar lannau afon Afan yng Nghwm Afan Uchaf lle y cyfarfu ag Arweinydd y cyngor, y Cyngh. Steve Hunt, a staff sy'n rhan o'r prosiect.

Mae'r £118m a ddarparwyd yn yr Adolygiad Gwariant gan y Canghellor ym mis Mehefin ar gyfer gwaith diogelwch tomenni glo yn ychwanegol at £25m o Gyllideb yr Hydref y llynedd, gan wneud cyfanswm o £143m o gyllid ar gyfer diogelu cartrefi sydd eisoes yn bodoli a sicrhau ardaloedd newydd o dir er mwyn adeiladu tai yn y dyfodol.

Yn ddiweddarach yr un diwrnod, yn yr Hwb Cyfleoedd yng Nghanolfan Siopa Aberafan ym Mhort Talbot, cafodd y Canghellor, a ymunodd â Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, y cyfle i gwrdd â phobl leol sy'n chwilio am waith, gan gynnwys pobl sydd wedi teimlo effaith cau'r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot, lle mae ffwrnais arc trydan gwerth £1.25bn, a fydd yn lanach ac yn fwy gwyrdd, yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.

Yn yr Hyb Cyfleoedd, mae staff Cyflogadwyedd CNPT yn canolbwyntio ar gynnig cymorth a mentora i bobl sy'n chwilio am waith. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer hyfforddiant ac uwchsgilio er mwyn gwella eu siawns o gael swyddi cynaliadwy hirdymor.

Gwnaeth y Canghellor hefyd gwrdd â staff o'r Rhaglen Arloesi sydd â'r nod o gefnogi dulliau lleol o leihau anweithgarwch economaidd – mae Llywodraeth y DU yn darparu £10m o gyllid ar gyfer y rhaglen yng Nghymru ac mae cynghorau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Sir Ddinbych yn ‘bartneriaid cyflawni rhaglen beilot’.

Hefyd, cyfarfu Ms Reeves â chyn-weithwyr sy'n cael eu cefnogi gan y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau a sefydlwyd gan Fwrdd Pontio Tata Steel er mwyn helpu pobl yng Nghymru y mae proses bontio Tata Steel UK wedi effeithio arnynt, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Mae'n cynnig cyllid grant er mwyn helpu'r bobl hynny y mae'r newidiadau yn Tata Steel wedi effeithio arnynt, gan gynnwys pobl yn y gadwyn gyflenwi a chontractwyr cysylltiedig, i ailhyfforddi, datblygu sgiliau, a dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt:  “Rydyn ni'n falch o weld y Canghellor yn dod i gael golwg uniongyrchol ar y materion rydyn ni'n eu hwynebu yma yng Nghastell-nedd Port Talbot o ran gwaddol peryglus y diwydiant glo a cholli swyddi yn sgil y newidiadau yn Tata Steel.

“Mae'r cyngor hwn yn gweithio'n galed gyda'i bartneriaid i liniaru'r problemau sy'n gysylltiedig â'n gorffennol glofaol a delio â'r problemau difrifol o ran cyflogaeth a'r economi sy'n deillio o ddatgarboneiddio prosesau cynhyrchu dur ac rydyn ni'n croesawu'r cyllid sydd mor hanfodol i ni wrth i ni symud tuag at ddyfodol glanach a mwy gwyrdd.”

                                        
 

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen