Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau Safon Uwch.

14 Awst 2025

Mae myfyrwyr ac athrawon yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot, sef y ddwy ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnig addysg ôl-16, yn cael eu llongyfarch am eu llwyddiannau yn 2025. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynychu Grŵp Colegau NPTC i barhau â'u haddysg ôl-16.

Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau Safon Uwch.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steven Hunt, “Diwrnod y canlyniadau yw ffrwyth blynyddoedd o ymroddiad gan ddisgyblion, athrawon, a rhieni a gofalwyr. P'un a fyddan nhw'n mynd i'r brifysgol, yn dechrau hyfforddi neu'n dechrau ar yrfa'n syth, bydd eu cymwysterau'n eu helpu i symud ymlaen i'w cam nesaf, ac rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch myfyrwyr a staff yr ysgolion, ychwanegodd y Cyngh. Nia Jenkins, sef yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar: “ Llongyfarchiadau enfawr i'r myfyrwyr ar eu llwyddiannau mewn amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol, technegol ac academaidd. Hoffwn hefyd gydnabod uwch-arweinwyr, swyddogion arholiadau, staff cymorth ac athrawon, a diolch iddynt am gefnogi ein pobl ifanc yn eu hastudiaethau. Mae'r sylfaen gadarn ar gyfer dysgu a gaiff ei gosod yng Nghyfnod Allweddol 4 wedi galluogi rhagor o fyfyrwyr i barhau â'u haddysg y tu hwnt i 16 oed gyda phwrpas, uchelgais a llwyddiant.”

I fyfyrwyr sy'n chwilio am arweiniad ar eu camau nesaf, bydd Tîm Cymorth Cyflogaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal sesiynau cyngor galw heibio yn yr Hyb Cyfleoedd yng Nghanolfan Siopa Aberafan ddydd Mercher 27 Awst, o 10am tan 3pm.
Bydd cynghorwyr o dîm Cyflogadwyedd CNPT, y Gwasanaeth Ieuenctid, Gyrfa Cymru, a gwasanaethau cymorth prentisiaethau ar gael i gynnig cyngor a chymorth. Ni fydd angen apwyntiad.

Fel arall, gall myfyrwyr ffonio 01639 860160 neu e-bostio jobsupport@npt.gov.uk i gael cymorth pellach.

Mae dathliadau ar eu hanterth yng Ngrŵp Colegau NPTC wrth i Ddosbarth 2025 ddathlu cyflawniadau anhygoel yn eu cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol.

Gyda chyfradd lwyddo gyffredinol o 99 y cant bron, unwaith eto, mae’r myfyrwyr wedi dangos eu hymrwymiad, eu doniau a’u penderfyniad i ddisgleirio. Mae’r canlyniadau eleni wir yn rhyfeddol wrth i fwy na hanner o’r myfyrwyr gyflawni graddau A*- B a bron chwarter ohonynt yn cyflawni’r graddau uchaf A*- A.

Llwyddodd mwy na thri chwarter o’n myfyrwyr i gyflawni graddau A* - C. Mae’r myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen GATE (i fyfyrwyr galluog a thalentog) yn parhau i osod y safon yn uwch, gyda 84 y cant yn cyflawni graddau A* - A a 100 y cant yn derbyn graddau A* - B. Cafwyd llwyddiant mawr hefyd gan y myfyrwyr a oedd yn sefyll eu cymwysterau Galwedigaethol L3, gyda 196 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagoriaeth, a 49 o’r myfyrwyr hyn yn cyflawni'r proffil graddau uchaf posibl mewn cymhwyster galwedigaethol, sy'n cyfateb i radd A* ar Safon Uwch.

At hynny, cyflawnodd 359 o ddysgwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn llwyddiannus gyda chyfradd lwyddo arbennig o 84 y cant yn cyflawni graddau A* i C.

Gyda’r canlyniadau rhagorol hyn, mae llawer o fyfyrwyr wedi sicrhau lle yn y brifysgol ac mae eraill yn barod i ddilyn llwybrau gyrfa cyffrous o’u dewis ar ôl cyflawni’r graddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Gyda rhaglen o brentisiaethau eang ei chwmpas ar gael yn y Coleg, bydd llawer o fyfyrwyr yn cychwyn ar brentisiaeth.  Darparir mwy na 2000 o brentisiaethau bob blwyddyn gan y Coleg fel rhan o’i rhaglen lwyddiannus.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd gyda’r canlyniadau:

“Mae ein myfyrwyr a’n staff yn haeddu cael eu canmol i’r eithaf am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Mae’r canlyniadau hyn yn anhygoel gyda chyfradd lwyddo gyffredinol o 99 y cant a’r nifer o raddau A*-A yr un peth â llwyddiant y llynedd.

Mae ein Myfyrwyr Galluog a Thalentog a ddilynodd y rhaglen GATE wedi rhagori ac mae ein myfyrwyr galwedigaethol yn parhau i berfformio ar y lefel uchaf.

Mae canlyniadau’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch hefyd yn rhagorol gyda chyfradd lwyddo o 100 y cant.

Mae’n destun balchder mawr i bawb sydd wedi cyfrannu. Rydyn ni yma i roi cyngor o ansawdd da i bawb, os hoffech gael lle yn y brifysgol, ceisio swydd, cyflawni prentisiaeth neu barhau i ddatblygu’ch sgiliau ymhellach trwy Addysg Bellach. Gallwn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych i’ch helpu i wneud eich penderfyniadau.  Llongyfarchiadau i Ddosbarth 2025, mae eich gwaith caled wedi bod yn ffrwythlon ac mae’r dyfodol yn gyffrous i bob un ohonoch chi.”

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth