Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau TGAU

21 Awst 2025

Mae disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion â chanlyniadau sy'n adlewyrchiad llawn o'u hymrwymiad, eu penderfynoldeb a'u hymroddiad dros flynyddoedd lawer.

Disgyblion yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin, Castell-nedd ar ddiwrnod canlyniadau TGAU

Mae perfformiad mewn cymwysterau TGAU a chymwysterau galwedigaethol yn 2025 yn gryf unwaith eto, gyda mwyafrif o ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot yn ennill o leiaf bum gradd TGAU A*-C neu raddau cyfatebol.
 
Ar y cyfan, mae carfan Blwyddyn 11 2025 wedi cyrraedd safonau da, sy'n wobr glir i'r disgyblion am eu gwaith caled drwy gydol eu gyrfaoedd ysgol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, sef yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar: “Hoffwn longyfarch pob un o'n disgyblion ar eu llwyddiant.  Rwy'n sicr y gall y disgyblion fynd â'u cymwysterau Cyfnod Allweddol 4 gyda nhw i'w cam nesaf ym myd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. “

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Steve Hunt: “Mae'r ymroddiad a'r gwaith caled a ddangoswyd gan ein disgyblion wir yn ysbrydoliaeth. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r bobl sydd wedi eu helpu i gyflawni eu canlyniadau. Mae'n rhaid bod eu teuluoedd, eu rhieni, staff eu hysgolion a'u cymunedau hefyd yn falch dros ben o'u cyflawniadau, ac rwy'n dymuno pob lwc iddynt ar gam nesaf eu taith.”

I ddisgyblion sy'n chwilio am arweiniad ar eu camau nesaf, bydd Tîm Cymorth Cyflogaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal sesiynau cyngor galw heibio yn yr Hyb Cyfleoedd yng Nghanolfan Siopa Aberafan ddydd Mercher 27 Awst, o 10am tan 3pm.

Bydd cynghorwyr o dîm Cyflogadwyedd CNPT, y Gwasanaeth Ieuenctid, Gyrfa Cymru, a gwasanaethau cymorth prentisiaethau ar gael i gynnig cyngor a chymorth. Ni fydd angen apwyntiad.

Fel arall, gall disgyblion ffonio 01639 860160 neu e-bostio jobsupport@npt.gov.uk i gael cymorth pellach.

 

 

hannwch hyn ar:
Disgyblion yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin, Castell-nedd wedi'u tynnu'n llun ar ddiwrnod canlyniadau TGAU

Rhannu eich Adborth