Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymo i'r Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS)

21 Awst 2025

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datgan ei gefnogaeth i gyn-aelodau ac aelodau presennol o'r lluoedd arfog sy'n LHDTC+ ac sydd, ers blynyddoedd, wedi wynebu gwahaniaethu a'r risg o gamau cyfreithiol a cholli eu swyddi, drwy ymrwymo i'r Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS).

(O'r chwith i'r dde) Noelwyn Daniel - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor CNPT; Laura Cooper-Smith - Ysgrifennydd Balchder CNPT; Vik - cadeirydd Balchder CNPT; Kevin Brazely, Rheolwr PiVS Dros Dro - Ymladd gyda Balchder, Y Cynghorydd Tom Bowen – Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor CNPT; Finola Pickwell – Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog Rhanbarthol)

Sefydlwyd y safon gan yr elusen Fighting With Pride (FWP) sy'n cefnogi iechyd a llesiant cyn-aelodau ac aelodau presennol o'r lluoedd arfog sy'n LHDT+ a'u teuluoedd – yn enwedig y rhai hynny y mae'r gwaharddiad a oedd yn atal pobl LHDT+ rhag gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog cyn mis Ionawr 2000 wedi effeithio fwyaf arnynt.  

Mae'r elusen yn cynnig cymorth cyfeillio gan bobl â phrofiadau bywyd tebyg, yn ogystal ag arweiniad ymarferol.

Mae ymrwymo i'r safon yn golygu bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn addo gwneud y canlynol:

•    Gosod y safonau uchaf o ran cynhwysiant i bobl LHDT+ yn CNPT.
•    Deall ‘gwaharddiad hoyw’ y lluoedd arfog a'r effaith y mae wedi'i chael ar bawb dan sylw.
•    Rhoi'r cymorth gorau posibl i gyn-aelodau ac aelodau presennol o'r lluoedd arfog sy'n LHDT+ a'u teuluoedd.
•    Cyd-fynd â chenhadaeth FWP i sicrhau y caiff cyn-aelodau ac aelodau presennol o'r lluoedd arfog sy'n LHDT+ a'u teuluoedd eu cynnwys yn llawn yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog – ymrwymiad y genedl i gyn-filwyr.

Dywedodd y Cyngh. Tim Bowen, sy'n un o Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Rhaglen a gafodd ei datblygu gan Fighting With Pride yw'r Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS), a thrwy ymrwymo iddi mae CNPT yn dangos ei ymrwymiad i fod yn gynhwysol a chroesawu cyn-aelodau ac aelodau presennol o'r lluoedd arfog sy'n LHDT+ a'u teuluoedd.” 

Dywedodd Kevin Brazely, sef Rheolwr Dros Dro PiVS Fighting With Pride, a ymwelodd â Chastell-nedd Port Talbot ar adeg ymrwymo i'r safon: “Mae'r sefydliadau sydd wedi ymrwymo i'n Safon Balchder mewn Cyn-filwyr yn hyrwyddwyr yn y gymuned sy'n dangos eu bod yno, yn barod, yn fodlon ac yn gallu helpu i ddiwallu anghenion cyn-aelodau o'r lluoedd arfog sy'n LHDTC+. 

“Bydd dangos logo PiVS yn rhoi gwybod i gyn-aelodau o'r lluoedd arfog sy'n perthyn i'r gymuned LHDTC+ y byddan nhw'n cael eu croesawu a'u trin â pharch a dealltwriaeth. 

“Mae mor bwysig i sefydliadau fel Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod yn rhan o PiVS er mwyn cyrraedd cynifer â phosibl o'r cyn-aelodau hynny o'r lluoedd arfog.”

Ar 12 Rhagfyr 2024, cyhoeddodd y Llywodraeth y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol. Mae'n galluogi pobl y gwnaeth y gwaharddiad effeithio arnynt wrth iddynt wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM rhwng 27 Gorffennaf 1967 ac 11 Ionawr 2000 i wneud cais am daliadau cydnabyddiaeth.

Datblygwyd y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol mewn ymateb i argymhelliad yr Arglwydd Etherton yn ei Adroddiad ar yr Adolygiad Annibynnol o Gyn-filwyr LHDT ynglŷn â gwneud iawn. 

Mae dolenni i'r holl fesurau gwneud iawn sy'n deillio o'r Adolygiad i'w cael yn: LGBT veterans: support and next steps – GOV.UK

Mae manylion a chanllawiau llawn i'w gweld yn: Veterans of the LGBT Ban: Financial Recognition Scheme – GOV.UK (Cyhoeddwyd 13 Rhagfyr 2024, diweddarwyd ddiwethaf 7 Awst 2025).  Bydd y ddolen hon BOB AMSER yn mynd â chi at y fersiwn ddiweddaraf o'r canllawiau a'r wybodaeth sy'n ymwneud â ffurflen gais a phroses y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol.

Mae gan FWP ganllaw ar y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol: FWP LGBT FRS Guide

Bydd y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol yn cau am 23:59 ar 12 Rhagfyr 2026. Ni chaiff yr un cais ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth