Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cynllun cyllido newydd ei ehangu yn annog cyn-weithiwr Tata i ailhyfforddi ym maes deallusrwydd artiffisial

28 Awst 2025

Mae Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau Llywodraeth y DU wedi galluogi Ryan Davies, sy'n gyn-Brif Ymchwilydd yn Tata Steel y cafodd ei swydd ei dileu, i symud tuag at yrfa newydd ym maes gwyddor data.

Ryan Davies

Mae Ryan wedi dechrau ar gwrs MSc mewn Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae'r cyllid yn cyfrannu at dalu ffioedd dysgu a phrynu offer hanfodol a deunyddiau astudio—gan gynnwys cyfrifiadur newydd a gwerslyfrau.

Bu'n gweithio fel peiriannydd yn labordai Tata am bron i 10 mlynedd, ac mae'n arbenigo mewn data mwynau. Erbyn hyn, mae Ryan yn defnyddio ei arbenigedd dadansoddol i ddatrys heriau cemegol a pheirianegol cymhleth gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol. Mae wedi cael dechrau cadarn i'w daith academaidd yn barod, gan ennill rhagoriaeth yn ei ddau aseiniad cyntaf.

Mae newidiadau diweddar i'r Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau, a sefydlwyd i gefnogi unrhyw unigolion yng Nghymru y cafodd eu swyddi eu dileu oherwydd newidiadau yn Tata Steel UK, yn golygu bod y cyllid ar gael i bobl nad oeddent yn gymwys o'r blaen. 

Ymhlith y rhain mae cyn-weithwyr sydd mewn rôl newydd nad yw'n adlewyrchu eu set sgiliau neu'n cyfateb i'w lefelau incwm blaenorol, fel pobl ar gontractau dim oriau neu gontractau dros do a phobl sy'n gweithio am yr isafswm cyflog. 

Hefyd, mae cymorth bellach ar gael i bobl sydd mewn gwaith ond y mae angen iddynt gael hyfforddiant ychwanegol er mwyn cyflawni eu rôl neu gamu ymlaen yn eu gyrfa, ac i bobl sy'n datblygu eu busnesau eu hunain ond nad ydynt yn gweithio amser llawn eto.

Wrth sôn am y ffordd mae'r cyllid wedi'i helpu, dywedodd Ryan: “Mae'r Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau wedi rhoi gobaith i mi drawsnewid sefyllfa heriol yn gyfle i newid fy ngyrfa. Mae tîm Cyflogadwyedd CnPT wedi bod yn gymaint o gymorth i mi a byddwn i'n annog unrhyw un arall yn yr un sefyllfa â fi i gysylltu â nhw i weld sut y gallan nhw eich cefnogi chi.”

Dywedodd y Cyngh. Jeremy Hurley, sef yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae'r meini prawf cymhwysedd ar eu newydd wedd yn golygu y gall y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau helpu mwy fyth o bobl i ailhyfforddi a dod o hyd i lwybrau newydd tuag at gyflogaeth yn sgil y newidiadau yn Tata Steel UK.”

“Mae ein tîm Cyflogadwyedd wrth law i helpu unrhyw unigolion ledled Cymru yr effeithiwyd arnynt, boed yn gyn-weithwyr Tata fel Ryan, yn gontractwyr, neu'n staff y cafodd eu swyddi eu dileu o gwmnïau yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel.”

Mae'r cyllid yn rhan o ymrwymiad ehangach i gefnogi unigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt. 

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i unigolion a'r cynlluniau cyllido sydd ar gael i gyflenwyr, egin fusnesau, a mentrau sy'n tyfu, ewch i: www.npt.gov.uk/cy/hwb-gwybodaeth-pontio-tata-steel

hannwch hyn ar:
Ryan Davies

Rhannu eich Adborth