Datganiad I'r Wasg
Meithrinfa Ddydd Ddwyieithog Newydd yn agor yng Nghwm-gwrach – gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU
Mae'r erthygl hon yn fwy na 7 mis oed
01 Medi 2025
Mae hen gapel segur wedi cael bywyd newydd, gan ddarparu gwasanaeth y mae mawr alw amdano gan y gymuned leol yng Nghwm-gwrach, diolch i grant oddi wrth Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Mae’r perchnogion Samuel a Megan Fender wedi goruchwylio’r prosiect adnewyddu, a drodd yn llafur cariad go iawn dros y tair blynedd ddiwethaf. Bellach, maen nhw’n barod i agor drysau Meithrinfa Ddydd Croeso, a fydd yn darparu gwasanaeth gofal plant dwyieithog (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) i Gwm-gwrach a’r pentrefi cyfagos.
Cafodd adeilad hen Gapel Bedyddwyr Calfaria, a leolir ar Stryd Fawr Cwm-gwrach, er nad yw wedi’i restru, ei gydnabod fel ‘adeilad o bwysigrwydd lleol’, ac ar ôl iddo fod yn wag dros y blynyddoedd diweddar, roedd Samuel a Megan yn awyddus i adnewyddu’r eiddo mewn modd sensitif a chynaliadwy, gan gadw’r blaen gwreiddiol, y gwaith maen a’r arwydd, er mwyn cadw’r ochr sy’n wynebu’r parth cyhoeddus fel y bu.
Ar y tu mewn, roedd y gwaith adnewyddu’n cynnwys gwelliannau hygyrchedd, trydan newydd, pibelli dŵr, insiwleiddio newydd, waliau styd a llawr mezzanine, a gosod cegin ac ystafell ymolchi newydd. Cafodd ffenestr liw wreiddiol yn y fynedfa ei hadfer yn ofalus hefyd. Bydd yr ardd yn gweld mwy o blannu gwyrdd a gosod blychau adar.
Fe wnaeth Croeso Day Nursery groesawu’r gymuned leol gyda Diwrnod Agored ar ddydd Sul 10 Awst, oedd yn cynnwys chwarae meddal a ddarparwyd gan Tumble Toes Party Hire a lluniaeth ysgafn.
Mae’r perchennog Megan yn ofalwr plant cofrestredig sydd wedi ennill gwobrau, a fu’n cynnal ei busnes o’i chartref dros y blynyddoedd diweddar, felly mae’r fenter newydd hon wedi ei galluogi i estyn y busnes a hefyd gynyddu faint o blant y gall hi ofalu amdanynt, gan greu saith o swyddi newydd yn y broses.
Bydd Meithrinfa Ddydd Croeso’n darparu gofal plant dwyieithog, gyda’r nod o annog plant i ddysgu’r Gymraeg o oedran ifanc, ac mae Megan hefyd yn gobeithio defnyddio’r adeilad fel llecyn i’r gymuned allu cynnal gweithgareddau eraill gan gynnwys grwpiau rhiant / babi, a ioga i fabis ar y penwythnos. Gellir gweld mwy o wybodaeth ar eu gwefan – Meithrinfa Croeso Day Nursery: Quality Care in Cwmgwrach
Yn ôl y perchnogion Samuel a Megan Fender: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o fod wedi cael derbyn y cyllid hwn gan Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi. Mae’r arian wedi ein helpu ni i adfer yr adeilad i safon uchel, er mwyn darparu gofal plant y mae cymaint o alw amdano yn yr ardal, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu yn hyn o beth.”
Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae hi’n wych gweld Cyllid Ffyniant Cyffredin y DU yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau lleol, gan eu galluogi i ymestyn a chreu swyddi newydd i’r gymuned, yn ogystal â dod ag adeiladau gweigion yn ôl i ddefnydd da, a fyddai’n para’n wag fel arall. Dymuniadau gorau i Samuel a Megan gyda’r fenter.”
Cafodd y prosiect adnewyddu cyfalaf ei ariannu’n rhannol drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi Cyngor Castell-nedd Port Talbot (VVPF) gan Lywodraeth y DU drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Mae VVPF yn grant cyfalaf, ac roedd yn ffurfio rhan o becyn cynlluniau grant y Cyngor yn 2024/25, a oedd ar gael diolch i Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.