Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gofyn am safbwyntiau pobl ar welliannau Teithio Llesol
Mae'r erthygl hon yn fwy na 10 mis oed
03 Medi 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd trigolion i rannu eu safbwyntiau ar gynigion i wella llwybrau cerdded, olwyno a beicio (Teithio Llesol) mewn trefi a phentrefi ledled y fwrdeistref sirol.
Drwy wella'r seilwaith presennol a datblygu llwybrau newydd, mae'r cyngor yn ceisio sicrhau mai Teithio Llesol fydd y dull teithio a ffefrir ar gyfer siwrneiau lleol.
Mae'r fenter hon yn helpu i wella ansawdd aer, annog pobl i ddilyn ffyrdd iachach o fyw, a gwneud cymunedau'n lleoedd mwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt yn gyffredinol.
Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn amlinellu'r llwybrau y mae'r cyngor yn bwriadu eu blaenoriaethu ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol. Ei nod yw gwneud cerdded, olwyno a beicio'n fwy diogel a hygyrch i bawb, yn enwedig pobl nad ydynt yn defnyddio dulliau teithio llesol ar hyn o bryd a phobl sy'n defnyddio cymhorthion symudedd.
Bydd nifer o gyfleoedd i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yn y broses ymgynghori, a bydd yr ymgynghoriad cyntaf yn dechrau ddydd Mercher (3 Medi).
Amserlen yr Ymgynghoriad:
- Ymgynghoriad 1: 3 Medi – 19 Hydref 2025
Gofynnir i drigolion rannu eu safbwyntiau ar lwybrau cerdded, olwyno a beicio presennol yn eu hardaloedd lleol. Gall yr adborth gyfeirio at rwystrau fel cyffyrdd anodd neu balmentydd cul, neu dynnu sylw at seilwaith newydd llwyddiannus. - Ymgynghoriad 2: Haf 2026
Bydd y cam hwn yn cynnwys cyflwyno'r canfyddiadau o Ymgynghoriad 1 a gofyn am adborth y cyhoedd ar y cynlluniau arfaethedig a gaiff eu datblygu mewn ymateb i'r ymgynghoriad cychwynnol.
Er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn adlewyrchu anghenion y gymuned gyfan, mae'r cyngor yn arbennig o awyddus i glywed gan unigolion nad ydynt yn cerdded nac yn beicio'n rheolaidd ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cyngh. Wyndham Griffiths, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd: “Mae'r ymarfer ymgynghori hwn yn gyfle pwysig i drigolion Castell-nedd Port Talbot rannu eu safbwyntiau ar lwybrau teithio llesol presennol ac arfaethedig a rhoi gwybod i ni beth yn union yr hoffen nhw ei weld yn cael ei gynnwys ar ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol.”
Dolen i'r ymgynghoriad: Cyfle i chi ddweud eich dweud am lwybrau cerdded, beicio ac olwyno yng Nghastell-nedd Port Talbot! | MapDataCymru
Dolen i'r tudalennau Teithio Llesol: Teithio Llesol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot