Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Arweinydd y cyngor yn canmol gwydnwch y gymuned flwyddyn ar ôl i'r ffwrnais chwyth gau

30 Medi 2025

Flwyddyn ar ôl i'r ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot gau, mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi canmol ymateb y gymuned ac mae'n atgoffa pobl a busnesau yr effeithiwyd arnynt am y cymorth sydd ar gael.

Arweinydd y Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynnal rhaglen gymorth gwerth £80 miliwn Llywodraeth y DU a sefydlwyd er mwyn mynd i'r afael ag effaith bellgyrhaeddol y newidiadau yn Tata Steel UK.

Mae'r cymorth yn cynnwys:

  • Y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau – Cymorth ailhyfforddi a chyflogaeth i weithwyr Tata Steel a ddadleolwyd a gweithwyr eraill yn y gadwyn gyflenwi ledled Cymru y mae'r broses bontio wedi effeithio arnynt.
  • Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi – Cymorth i fusnesau ledled Cymru sy'n ddibynnol iawn ar Tata Steel UK.
  • Y Gronfa Dechrau Busnes – Mae'n galluogi gweithwyr Tata Steel UK yr effeithiwyd arnynt, eu teuluoedd agos ac unigolion yr effeithiwyd arnynt yn y gadwyn gyflenwi i gael cymorth, arweiniad a chyllid grant penodol er mwyn dechrau busnes neu ddod yn hunangyflogedig. 
  • Y Gronfa Cadernid Busnesau – Ei nod yw gwella cadernid busnesau a diogelu swyddi drwy dargedu busnesau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau lleol megis caffis, bwytai, manwerthwyr ac ati yr effeithiwyd arnynt.
  • Y Gronfa Twf Busnes – Grantiau cyfalaf a refeniw er mwyn helpu busnesau, contractwyr a chyflenwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot i arallgyfeirio ac ehangu.
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Llesiant – Gan gynnwys gwasanaethau cwnsela a rhaglenni ar gyfer ysgolion.

Wrth sôn am y gwahaniaeth y mae'r cyllid a'r cynlluniau cymorth wedi'i wneud, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Steve Hunt: “Cafodd diwedd cynhyrchu dur sylfaenol ym Mhort Talbot effaith ar lawer o bobl a busnesau lleol – nid dim ond yn y diwydiant dur. Fodd bynnag, mae gweld sut mae ein cymunedau wedi ymateb i'r heriau a ddaeth yn sgil hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth.

“Mae llawer o weithwyr yr effeithiwyd arnynt wedi defnyddio'r Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gan gynnwys rhai sydd wedi symud i feysydd gwaith cwbl newydd neu hyd yn oed ddiwydiannau sy'n datblygu fel deallusrwydd artiffisial

“Mae eraill o aelwydydd lleol yr effeithiwyd arnynt wedi defnyddio'r Gronfa Dechrau Busnes benodol i ddechrau eu busnesau eu hunain; i ddod yn hunangyflogedig; neu i helpu os ydyn nhw eisoes yn rhedeg busnes bach/egin fusnes.

“Yn yr un modd, mae nifer da o gwmnïau sydd eisoes yn bodoli wedi manteisio ar gymorth y Bwrdd Pontio, gan gynnwys Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi a'r Cronfeydd Twf a Chadernid Busnesau. Gan weithio ochr yn ochr â Busnes Cymru, mae tîm busnes y cyngor wedi helpu llawer o gwmnïau i arloesi ac arallgyfeirio eu gweithrediadau.”

Yng nghyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 4 Medi 2025, cyhoeddwyd bod y canlynol wedi digwydd yn y cyfnod hyd at fis Mehefin 2025:

  • Mae 37 o fusnesau yn y gadwyn gyflenwi wedi cael grantiau, sydd wedi diogelu bron i 200 o swyddi yn yr ardal leol;
  • Mae 43 o fusnesau yn yr ardal leol wedi cael grantiau twf a chadernid;
  • Mae 22 o fusnesau newydd wedi cael eu creu gan ddefnyddio grantiau ar gyfer offer a hyfforddiant;
  • Mae 3,667 o gyrsiau hyfforddi a chymwysterau wedi cael eu hariannu ar gyfer unigolion sydd wedi colli eu swyddi ac sy'n chwilio am yrfaoedd newydd;
  • Mae 332 o bobl wedi cael cymorth uniongyrchol i ddod o hyd i swyddi newydd gan ddefnyddio gwasanaethau cyflogadwyedd yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot a ariennir gan y Bwrdd Pontio;
  • Mae bron i 600 o gyflogeion Tata Steel UK a oedd yn wynebu risg y byddai eu swyddi'n cael eu dileu'n orfodol i ddechrau wedi cael cynnig cyfleoedd eraill o fewn y busnes; 
  • Er bod dros 2,100 o bobl wedi colli eu swyddi o Tata Steel UK hyd yn hyn, a llawer mwy o bobl yn y gadwyn gyflenwi, nid yw'r lefelau diweithdra lleol wedi cynyddu'n sylweddol ers mis Medi 2024.

Hefyd, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn cydweithio'n agos â thimau lles lleol a sefydliadau megis Mind CNPT i sicrhau bod cymorth emosiynol ac iechyd meddwl hygyrch ar gael yn ystod y cyfnod pontio heriol hwn.

Wrth siarad am ddyfodol y diwydiant dur ym Mhort Talbot, dywedodd y Cyngh. Hunt: “Mae ein hadran gynllunio wedi gweithio'n galed ar sefyllfa a oedd yn gymhleth iawn, er mwyn galluogi Tata Steel i fwrw ymlaen ag adeiladu ffwrnais arc drydan arloesol. Hefyd, mae cymeradwyaeth cynllunio wedi cael ei rhoi ar gyfer SWITCH, sef cyfleuster ymchwil arbenigol yng Nglannau'r Harbwr ym Mhort Talbot i gefnogi'r diwydiant a'i gadwyn gyflenwi.

“Bydd y datblygiadau hyn yn creu lle newydd ar gyfer cynhyrchu dur a fydd, ochr yn ochr â phrosiectau mawr fel y Porthladd Rhydd Celtaidd, yn rhesymau dros fod yn obeithiol wrth i ni addasu i newid sydd wedi cael effaith aruthrol ar yr ardal gyfan.

“Fodd bynnag, er bod proses bontio Tata Steel wedi effeithio ar ardal Port Talbot yn fwy na'r un ardal arall, wrth gwrs, mae'n hanfodol cofio bod cymorth ar gael i bobl a busnesau yr effeithiwyd arnynt ledled Cymru. Byddwn yn eu hannog i fynd i'n gwefan, cysylltu â'n timau neu gwrdd â nhw wyneb yn wyneb i gael gwybod mwy.” 

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i unigolion a'r cynlluniau cyllido sydd ar gael i gyflenwyr, egin fusnesau, a mentrau sy'n tyfu, ewch i: www.npt.gov.uk/cy/hwb-gwybodaeth-pontio-tata-steel

hannwch hyn ar:
Arweinydd y Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt

Rhannu eich Adborth