Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Byddwch yn barod am Ŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd 2025!

30 Medi 2025

Bydd Gŵyl Bwyd a Diod flynyddol Castell-nedd yn dychwelyd i Ganol Tref Castell-nedd ddydd Gwener, 3 Hydref, a dydd Sadwrn, 4 Hydref, 2025 (10am – 5.30pm ar y naill ddiwrnod a'r llall).

Byddwch yn barod am Ŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd 2025!

Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n trefnu'r ŵyl, ac fe'i nodweddir gan arogl bwyd stryd blasus a sain cerddoriaeth. Yn wir, mae wedi dod yn rhan annatod o galendr digwyddiadau Canol Tref Castell-nedd.

Felly ymunwch â ni am ddeuddydd o fwyd, diod, adloniant, cymuned, diwylliant a chreadigrwydd ar ddiwedd yr wythnos hon.

Bydd rhestr sylweddol o arddangoswyr yn rhan o'r ŵyl eleni, gan gynnwys y gwneuthurwr jin sydd wedi ennill gwobrau, Toca Vida Gin. Ystyr yr ymadrodd Sbaeneg Toca Vida yw ‘cyffwrdd â bywyd’, a chaiff y jin ei ddistyllu yn yr ardal wledig doreithiog o amgylch Castell Hensol.

Mae Mac Daddies yn cynnig seigiau macaroni a chaws gyda thopins sy'n cynnwys cigoedd wedi'u tynnu'n boeth, cloron y moch a hyd yn oed aur.

Cwmni cacennau cartref o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a sefydlwyd yn 1993 yw Popty Cara, ac ymhlith y danteithion y mae'n eu cynnig mae torth sinsir gludiog du, cacen seidr Ralph a bara brith.

Hefyd yn yr ŵyl bydd Harry's Hog Roast & Caterers o Lanelli, sy'n darparu moch rhost a barbeciws ar gyfer digwyddiadau, priodasau a phartïon, a Cwm Deri Wines & Liqueurs, sy'n gwerthu cynnyrch a ddaw o ystad hardd ar dir gwinllan aeddfed sy'n cynhyrchu sawl tunnell o rawnwin y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Gyda bwydydd a diodydd o Gastell-nedd Port Talbot, Cymru benbaladr a thu hwnt, mae'r ŵyl hon yn un o nifer o ddigwyddiadau rheolaidd sy'n llenwi strydoedd Castell-nedd.

“Cafodd Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd ei chynnal am y tro cyntaf yn 2009 ac, erbyn hyn, mae'n un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd o'r fath yng Nghymru, gan ddenu torfeydd o fwy nag 20,000 o ymwelwyr y dydd ac alla i ddim aros i roi cynnig ar rai o'r danteithion blasus.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys gwybodaeth am barcio a'r ffyrdd, cliciwch yma: Ynglŷn â'r ŵyl – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth