Datganiad I'r Wasg
Y Ffilmiau Mawr Diweddaraf yn dod i Bontardawe wrth i'r Sinema Newydd Agor
01 Hydref 2025
Bydd y sinema newydd sbon yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe yn agor ei drysau i'r cyhoedd yn swyddogol ddydd Llun 6 Hydref 2025.
Ymhlith y ffilmiau cyntaf a gaiff eu dangos yno bydd Downton Abbey: The Grand Finale (PG), Dora: Magic Mermaid Adventures (U), a TRON: Ares (12A), gan nodi dechrau oes newydd i'r lleoliad. Mae tocynnau ar gael nawr yn www.pontardaweartscentre.com/cy.
Mae'r sinema sydd newydd ei hailddatblygu yn dal 74 o bobl ac yn cynnwys technoleg taflunio arloesol, sain amgylchynol Dolby ATMOS, a seddi cyfforddus—gan gynnig profiad gwylio o safon uchel yng nghanol Pontardawe. Am y tro cyntaf erioed, bydd y lleoliad yn gallu dangos y ffilmiau diweddaraf pan gânt eu rhyddhau gyntaf, gan gynnig lefel newydd o fynediad sinematig i gynulleidfaoedd lleol.
Bydd dangosiadau hamddenol yn cael eu cynnal yn y sinema, gyda'r nod o gynnig amgylchedd digyffro, cyfforddus a chynhwysol i bobl ag amrywiaeth o amhariadau—gan sicrhau y gall pawb fwynhau'r profiad o fynd i'r sinema.
Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu mwynhau bar caffi modern newydd, ac mae gwelliannau wedi cael eu gwneud i'r theatr, gan gynnwys seddi balconi newydd, goleuadau gwell, a gwelliannau cosmetig ym mhob rhan o'r lleoliad. Bydd y bar caffi newydd ar agor i bawb, gan ychwanegu cyrchfan ffasiynol newydd i ganol y dref.
Mae'r ailddatblygiad yn adeiladu ar raglen amrywiol a bywiog y ganolfan, sydd eisoes yn cynnwys ffilmiau, cerddoriaeth, comedi a'r theatr – gan ei gwneud yn hyb diwylliannol i'r gymuned.
Mae'r prosiect, a ariannwyd drwy grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a chyfraniadau ychwanegol gan raglen Cyfalaf Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth y DU, yn rhan allweddol o ymrwymiad y cyngor i fuddsoddi mewn diwylliant ac adfywio lleol.
Dywedodd y Cyngh. Steve Hunt, sef Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae'r prosiect ailddatblygu gwych hwn yn golygu ein bod ni bellach yn gallu dangos y ffilmiau mawr diweddaraf yma ym Mhontardawe. Rydyn ni'n anhygoel o ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth wrth droi'r weledigaeth hon yn realiti. Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe nawr mewn sefyllfa well nag erioed i wasanaethu ein cymuned a denu ymwelwyr newydd.”
Ychwanegodd y Cyngh. Cen Phillips, yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant:
“Mae lleoliadau o safon uchel fel hwn yn hanfodol i ganol ein trefi – maen nhw'n denu pobl, yn cefnogi busnesau lleol, ac yn creu ymdeimlad gwirioneddol o le. P'un a ydych chi yma i weld ffilm neu sioe fyw, neu ddim ond i fwynhau paned o goffi yn ein bar caffi, mae yma rywbeth at ddant pawb.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Rydyn ni'n falch iawn o gael cefnogi'r prosiect i drawsnewid Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn gartref mwy cydnerth a chroesawgar ar gyfer ffilmiau a'r celfyddydau. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi buddsoddi dros £600,000 yn y prosiect hwn, gan gynnwys £300,000 yn fwyaf diweddar drwy Gynllun Buddsoddi mewn Theatrau a Lleoliadau'r Celfyddydau Llywodraeth Cymru.
“Bydd y sinema bwrpasol newydd hon yn galluogi cynulleidfaoedd lleol i weld ffilmiau pan gânt eu rhyddhau gyntaf ar eu stepen drws, a bydd y caffi, y bar a'r cyntedd ar eu newydd wedd yn creu profiad mwy cynhwysol a phleserus i bawb.
“Nod ein cyllid yw atgyfnerthu bywyd diwylliannol y gymuned, ehangu mynediad at y celfyddydau, a helpu i sicrhau bod y Ganolfan yn parhau i ffynnu fel rhan o dirwedd gelfyddydol fywiog ledled Cymru.”
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Trawsnewid Trefi, cyllid loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rhaglen gyfalaf Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a chymorth ychwanegol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.