Datganiad I'r Wasg
Dros £2.5m i gael ei fuddsoddi mewn adnewyddu meysydd chwarae Castell-nedd Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 6 mis oed
01 Hydref 2025
Dros y tair blynedd nesaf, bydd dros £2.5m yn cael ei fuddsoddi mewn moderneiddio ac adnewyddu 16 o feysydd chwarae plant ledled Castell-nedd Port Talbot y gwelwyd eu bod mewn cyflwr gwael.
Cafodd y cyllid ar gyfer y Rhaglen Gwella Meysydd Chwarae hanfodol, sef cyfanswm o £2,521,500, ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 1 Hydref, 2025.
Dywedodd y Cyngh. Scott Jones, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Y nod yw y bydd meysydd chwarae hen ffasiwn yn cael eu disodli gan fannau pwrpasol modern sydd wedi'u teilwra ar gyfer anghenion pob cymuned.
“Cydnabyddir bod meysydd chwarae yn adnoddau cymunedol hanfodol sy'n hybu gweithgarwch corfforol, datblygiad cymdeithasol a llesiant emosiynol.
“Bydd y rhaglen wella hon, sy'n rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella safonau meysydd chwarae lleol, yn hanfodol nid yn unig er mwyn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw a datblygiad cymdeithasol, ond hefyd er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at amgylcheddau awyr agored diogel.”
Mae'r cyngor yn ddarostyngedig i rwymedigaethau statudol yn unol â'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, sef gofyniad cyfreithiol yng Nghymru o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Ar hyn o bryd, mae Adran Gwasanaethau Cymdogaeth yr awdurdod yn goruchwylio'r gwaith o reoli 48 o feysydd chwarae ledled y fwrdeistref, gyda chymorth tîm ymroddedig a phrofiadol.
Gwnaeth Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y cyngor, ynghyd â chydweithwyr ym mae Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, gomisiynu arolwg annibynnol o gyflwr holl feysydd chwarae Castell-nedd Port Talbot ym mis Ebrill 2025.
Cafodd meysydd chwarae eu hasesu yn seiliedig ar eu cyflwr o ran diogelwch, a gwelwyd bod angen i 16 o safleoedd gael sylw ar frys a bod angen eu hadnewyddu. Mae'n bosibl y byddai'n rhaid i rai safleoedd gau, hyd yn oed, pe na bai'r gwaith adnewyddu gofynnol yn cael ei wneud.
Dywedodd y Cyngh. Simon Knoyle, sef Aelod Cabinet y cyngor dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae angen i'r 16 maes chwarae hyn gael eu hatgyweirio'n sylweddol neu eu hadnewyddu'n llawn yn ystod y 12 i 36 mis nesaf. Heb fuddsoddiad, mae'n bosibl y byddai'n rhaid cau'r cyfleusterau hyn am resymau diogelwch – yn syml, ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd!”
“Fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, dylem geisio ariannu rhaglen cynnal a chadw lawn barhaus a fydd yn cynnwys archwiliadau rheolaidd a gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r 48 o feysydd chwarae sy'n eiddo i'r cyngor. Rhaid i ni sicrhau bod buddsoddiad cynaliadwy yn ein holl feysydd chwarae ar waith gan eu bod yn gyfleusterau hanfodol i drigolion yn ein cymunedau.”
Dywedodd adroddiad gan swyddog i gyfarfod y Cabinet y canlynol am y rhaglen wella: “Mae'r dull hwn yn adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan wreiddio ffyrdd hirdymor o feddwl, gwaith atal, ac integreiddio ym mhob un o'r camau cynllunio a chyflawni.
“Caiff strategaeth y cyngor ei hatgyfnerthu ymhellach drwy gysoni â'i Gynllun Rheoli Cyrchfan, sy'n cydnabod pwysigrwydd mannau cyhoeddus deniadol a hygyrch er mwyn datblygu cymunedau cydnerth a chefnogi twristiaeth leol.”
Mae penderfyniad y Cabinet yn amodol ar broses galw i mewn tri diwrnod o hyd.