Datganiad I'r Wasg
Goleuadau, Camera, Cymuned! Arweinydd y Cyngor yn agor sinema newydd foethus Canolfan Celfyddydau Pontardawe
07 Hydref 2025
Agorodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt, sinema newydd Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn swyddogol ar 6 Hydref 2025, gan groesawu cyfnod newydd o ddangos y ffilmiau mawr diweddaraf yng Nghwm Tawe.
Mae'r sinema, sydd yng nghanol Pontardawe ac yn dal 74 o bobl, yn cynnwys technoleg taflunio arloesol, system sain ymdrochol Dolby Atmos a seddi cyfforddus, ac mae'n rhan o brosiect ailddatblygu mawr gwerth £2m sydd hefyd yn cynnwys bar caffi newydd, cyfleusterau theatr wedi'u diweddaru a gwelliannau eraill i'r adeilad.
Mae'r prosiect wedi cael cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Trawsnewid Trefi, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth y DU drwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin.
Wrth ddadorchuddio plac yng Nghanolfan y Celfyddydau i ddatgan bod y sinema ar agor yn swyddogol, talodd y Cyngh. Hunt deyrnged i reolwr y Ganolfan, Meirion Gittins, a'i staff a gadwodd y Ganolfan ar agor drwy gydol y prosiect ailddatblygu er mwyn i'r gymuned barhau i allu defnyddio ei chyfleusterau hanfodol.
Dywedodd: “Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe wir yn ganolbwynt i'r gymuned yma, a hynny ers blynyddoedd. Mae'r sinema newydd hon yn dangos ymrwymiad y cyngor i gefnogi, hyrwyddo a meithrin y celfyddydau a, thrwy wneud hynny, ysbrydoli cymunedau a dod â nhw ynghyd.”
Ychwanegodd y Cyngh. Hunt na fyddai'r sinema newydd “wedi gadael y cam cynllunio” heb weithredoedd hael y cyllidwyr, a rhoddodd ganmoliaeth hefyd i dîm yr Amgylchedd ac Adfywio'r cyngor, ei benseiri mewnol, yn ogystal â'r dylunwyr yn Childs Sulzmann Architects, rheolwyr y prosiect yn MDA Consulting, a'r prif gontractwr, sef John Weaver (Contractors) Ltd.
Yn yr agoriad, ychwanegodd y Cyngh. Cen Phillips, sef yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae'r lle hwn yn golygu cymaint i gynifer o bobl. Dyma galon y dref go iawn, ac mae'n lle y mae pawb yn ei adnabod ac mae gan bawb gysylltiad ag ef, ynghyd â'r atgofion melysaf.
“Hwn YW'R lle cwrdd lleol i bobl ifanc ...a phobl lai ifanc. Byddai'n anodd dychmygu Pontardawe heb Ganolfan y Celfyddydau – a phwy fyddai am wneud hynny?!
“Rwyf wedi edrych ar weithgareddau'r mis diwethaf yma i roi syniad i chi o'r hyn sy'n digwydd! Mae'n anhygoel ac yn ysbrydoliaeth. O gofio bod gwaith adeiladu yn dal i fynd rhagddo ar y pryd, cynhaliwyd mwy na 60 o ddosbarthiadau, gweithdai a chyfarfodydd yn yr adeilad hwn ym mis Medi ...yn ogystal â cherddoriaeth fyw, dramâu a ffilmiau ar yr hen sgrin yn yr awditoriwm hanesyddol.
“Ymhlith y dosbarthiadau a'r grwpiau cymunedol roedd grwpiau dawnsio i blant iau, dosbarthiadau bale, dosbarthiadau ffitrwydd i bobl o bob oed, gweithdai gwneud ffilmiau, cyfarfodydd clwb ffilmiau, sesiynau dysgu oedolion ac ymarferion theatr ieuenctid! A llawer mwy! Cafodd yr adeilad hwn ei ddefnyddio gan bron i 3,000 o bobl y mis diwethaf – gwirioneddol ryfeddol!
Yn yr agoriad swyddogol, gwyliodd y gynulleidfa wahoddedig ffilm fer am hanes hir adeilad Canolfan Celfyddydau Pontardawe. Adeiladwyd y lleoliad yn wreiddiol yn 1908 fel Neuadd a Sefydliad Cyhoeddus, a chafodd ei agor â chryn dipyn o ddathlu yn 1909 gan y gantores enwog Madame Adeline Patti.
Mae'r sinema bellach ar agor a'r ffilmiau cyntaf i gael eu dangos yn y lleoliad yw Dora: Magic Mermaid Adventures a Downton Abbey: The Grand Finale ac mae'r ffilm antur ffuglen wyddonol TRON: Ares ar y ffordd cyn bo hir.