Datganiad I'r Wasg
Gwario bron i £1m ar brosiectau adfer natur ledled cymunedau Castell-nedd Port Talbot
08 Hydref 2025
Bydd bron i £1m yn cael ei wario yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y ddwy flynedd nesaf ar brosiect ‘byd natur ar eich stepen drws’ er mwyn ailgysylltu cymunedau â'r awyr agored.
Cafodd Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cyngor Castell-nedd Port Talbot y cyllid o gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Y nod yw adfer a chyfoethogi byd natur ledled Cymru mewn mannau lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r ffocws ar annog pobl leol i ymgysylltu â byd natur a chymryd rhan ynddo drwy weithgareddau ar raddfa fach sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'w hardaloedd lleol.
Bydd y rhaglen yn dechrau nawr ac yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2027. Cyfansymiau'r cyllid fydd (25/26) £478,296.09 a (26/27) £478,296.09
Yn CNPT, caiff yr arian ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
- Adfer a chyfoethogi 28 o safleoedd natur ledled y sir, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Lleol a safleoedd eraill sydd ar stepen drws pobl leol. Bydd hyn yn cynnwys rheoli dolydd, cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol a rheoli prysgwydd er mwyn adfer glaswelltir.
- Gosod toeau gwyrdd – gan weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru drwy brosiect Wardeiniaid Natur, rydym yn rhoi arian cyfatebol tuag at arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn ariannu cysgodfannau beiciau â thoeau gwyrdd mewn dwy orsaf dân.
- Prosiect i greu cynefinoedd nythu ar gyfer y Wennol Ddu sydd mewn perygl, gan weithio gyda phartneriaid fel Tai Tarian i osod blychau nythu ar adeiladau a thŵr gwenoliaid du.
- Cynnal rhaglen o ddigwyddiadau natur a chyrsiau hyfforddi ledled y fwrdeistref sirol drwy ein grŵp CNPT dros Natur, megis ‘Dydd Sul Morloi’, ‘Garddio ar gyfer Gwenyn’ a theithiau cerdded ystlumod.
- Cynnig cronfa grantiau bach ar gyfer prosiectau natur cymunedol, drwy Bartneriaeth Natur Leol CNPT https://www.naturenpt.cymru/cy/npt-lnp-grant-fund
Caiff y 28 o safleoedd natur eu cydnabod am eu harwyddocâd ecolegol ond nid oes cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer eu cynnal a'u cadw, ac felly maent wedi bod yn dirywio o ran eu gwerth i fyd natur ac i bobl.
Mae'r safleoedd hyn yn darparu nifer o wasanaethau ecosystem, fel rheoli perygl llifogydd, rheoleiddio llygredd aer a lliniaru newid hinsawdd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips: “Mae darparu lleoedd i bobl ymgysylltu â natur wedi’i brofi’n wyddonol i fod yn bwysig iawn ar gyfer iechyd a llesiant.
“O ganlyniad, mae’n bwysig iawn adfer y safleoedd hyn gyda’r prosiect hwn, gan alluogi ein cymunedau lleol i ymgymryd â phrosiectau natur gyda darparu pot grantiau bach. Byddwn yn creu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau mewn perygl ac yn cysylltu pobl leol â’u safleoedd natur lleol.”