Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Y cyngor yn ennill gwobr fawreddog am Gynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd

09 Hydref 2025

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill Gwobr Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) Cymru am ei gynllun i liniaru llifogydd yng Nglyn-nedd, a gyflawnwyd gyda'i bartneriaid Atkins Réalis a Knights Brown Construction.

Y cyngor yn ennill gwobr fawreddog am Gynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd

Enillodd y prosiect Wobr Roy Edwards am y Prosiect Adeiladu Gorau o dan £5m yng ngwobrau ICE Cymru.

Mae'r wobr yn dathlu ffrwyth pum mlynedd o waith datblygu a chyflawni ymroddedig, a oedd yn bosibl diolch i gyllid hanfodol gan Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Cyflawniadau'r Prosiect – Datblygwyd Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd gan Dîm Systemau Draenio'r cyngor mewn cydweithrediad â'i bartner dylunio ac ymgynghori, sef Atkins Réalis, rhwng 2019 a 2024.

Cafodd y cynllun ei roi ar waith mewn dau gam ledled Glyn-nedd, ac roedd yn cynnwys:

  • Adeiladu adeiledd mewnlif concrit cyfnerth yng Nghlôs Lancaster, a ddyluniwyd i gynnwys digwyddiad storm unwaith-mewn-canrif ac atal llifogydd yn Heol y Garreg, Heol Robert, ac ardal canol y dref gerllaw.
  • Gosod system gwlfertau wasgeddedig 900mm o ddiamedr, gyda system ddraenio ychwanegol i fyny'r afon er mwyn gwella mynediad a rheoli dŵr wyneb yn well yng Ngelliceibryn.
  • Gosod pibell 900mm islaw prif ffordd gerbydau a throedffordd gul.
  • Rhoi wyneb newydd ar ffyrdd cerbydau a gosod sianeli concrit a draeniau er mwyn gwella llif dŵr wyneb.
  • Gosod cwlfert newydd a waliau uwch cysylltiedig ar Heol Glynmelyn i ddisodli rhyd.

Dywedodd y Cyngh. Scott Jones, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Mae'r gwaith hwn wedi lleihau perygl llifogydd yn sylweddol i drigolion a busnesau ac wedi gwneud seilwaith yn fwy gwydn yn yr ardal.

“Mae'r wobr yn dyst i uchelgais a brwdfrydedd ein Tîm Systemau Draenio mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd. Mae cael cydnabyddiaeth broffesiynol gan ddiwydiant ar raddfa genedlaethol yn destun balchder;

“Roedd yn braf gweld cynifer o gynlluniau perygl llifogydd yn y rhestr fer o brosiectau ar gyfer y gwobrau gan fod hynny'n dangos yr holl waith mae ein cydweithwyr ym maes rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ei wneud yng Nghymru.

“Hoffwn ddiolch i'r tîm gwych yn Atkins Réalis a arweiniodd y gwaith o ddylunio'r prosiect hwn am eu cyflawniad ardderchog, a diolch yn arbennig i'n contractwyr Knights Brown a ddaeth â'r holl beth yn fyw.

“Mae'r cyflawniad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio, peirianneg arloesol, a buddsoddiad parhaus mewn gwydnwch rhag llifogydd. Mae hyn yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw awdurdodau lleol, ymgynghorwyr, contractwyr a'r llywodraeth at ei gilydd gyda gweledigaeth gyffredin”.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: “Bydd ein buddsoddiad yn y cynllun hwn, sef cyfanswm o fwy na £3.6m, yn arwain at fudd hirdymor i fwy na 270 o adeiladau yn yr ardal – ac mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad diwyro i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu yn sgil newid hinsawdd.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £300m mewn diogelu cymunedau ledled Cymru rhag tywydd cynyddol anrhagweladwy ac eithafol, ac mae'r cyllid eleni wedi cynyddu i £77 miliwn.”

 

                      

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth