Datganiad I'r Wasg
Gwasanaeth Hawliau Lles y Cyngor yn Helpu'r Trigolion Mwyaf Agored i Niwed i Gael £12m mewn Incwm Ychwanegol
04 Tachwedd 2025
Mae Gwasanaeth Hawliau Lles Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi helpu rhai o drigolion mwyaf agored i niwed a difreintiedig y fwrdeistref sirol i gael mwy na £12 miliwn mewn incwm ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25.
Mae'r cymorth sydd wedi cael ei roi yn cynnwys help i hawlio amrywiaeth eang o fudd-daliadau fel Lwfans Byw i'r Anabl, Credyd Pensiwn, Taliadau Annibyniaeth Personol, a llawer mwy. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol wedi'u teilwra, gan gynnwys help i lenwi ffurflenni, cymorth cyllidebu, ac arweiniad ar yr hyn y gall fod gan drigolion hawl i'w gael.
Hefyd, mae swyddogion Hawliau Lles yn gweithio'n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, yn enwedig wrth gefnogi teuluoedd sydd mewn argyfwng drwy gynnig cyngor ac arweiniad ar y cymorth sydd ar gael.
Gall trigolion gysylltu â'r gwasanaeth drwy linell gyngor arbennig a chwe chanolfan allgymorth mewn cymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot. Yn ogystal â hynny, mae'r gwasanaeth yn cynnwys swyddogion budd-daliadau Macmillan sy'n arbenigo yn y budd-daliadau sydd ar gael i gleifion canser.
Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, gwnaeth y Gwasanaeth Hawliau Lles helpu mwy na 1,400 o drigolion drwy ei linell gyngor a chynrychioli trigolion mewn tribiwnlysoedd budd-daliadau, gan sicrhau cyfradd llwyddo o 93%.
Mae'r gwasanaeth wedi sicrhau cynnydd cyson yn yr incwm y mae wedi helpu trigolion i'w gael. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2024/25), codwyd £12,437,869 – sy'n fwy na'r £10,561,959 a sicrhawyd yn 2023/24, a'r £7,036,537 yn 2022/23. Mae'r gwasanaeth wedi helpu trigolion i gael mwy na £6 miliwn mewn incwm ychwanegol yn barod yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Cyflwynwyd y wybodaeth hon mewn adroddiad Trosolwg o'r Uned Hawliau Lles i Bwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ddydd Iau 30 Hydref 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Jo Hale, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd: “Mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i gefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed a difreintiedig er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael y cymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo ac yn cael cymaint o incwm â phosibl.
“Mae'r Gwasanaeth Hawliau Lles yn cyflawni rôl hollbwysig o ran helpu pobl i ganfod eu ffordd drwy systemau cymhleth a sicrhau'r help sydd ei angen arnyn nhw.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael drwy'r Gwasanaeth Hawliau Lles, ewch i: https://www.npt.gov.uk/cy/tai-a-budd-daliadau/budd-daliadau/hawliau-lles/. Fel arall, e-bostiwch: welfarerights@npt.gov.uk neu ffoniwch: (01639) 685225.
I gael gwybod pa gymorth arall sydd ar gael i helpu gyda chostau, chwyddiant a phwysau costau byw cynyddol, ewch i dudalen we Help gyda Chostau Byw arbennig y Cyngor: https://www.npt.gov.uk/cy/tai-a-budd-daliadau/help-gyda-chostau-byw/ neu gallwch gael taflen o lyfrgell neu ganolfan ddinesig leol.