Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Bellach ar agor – cyfleusterau newydd sbon Parc Gwledig Gnoll a’i hanes wedi’i adnewyddu

19 Tachwedd 2025

Mae cyfleusterau i ymwelwyr sydd wedi’u moderneiddio a nodweddion hanesyddol a adnewyddwyd ar draws 240 erw o Barc Gwledig Gnoll yng Nghastell-nedd ar agor i’r cyhoedd heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 19eg, 2025), ar ôl gwaith ailddatblygu o bwys a gostiodd £12m.

Canolfan Ymwelwyr newydd Parc Gwledig y Gnoll

Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot a gydag arian Llywodraeth y DU drwy gyfrwng prosiect Coridor Treftadaeth Cwm Nedd, mae’r prosiect wedi creu:

  • Canolfan ymwelwyr deulawr newydd sbon, llwyr hygyrch, sy’n dod yn lle’r adeilad blaenorol oedd yn dechrau dangos ei oed – gan gynnig caffi modern, balconi deniadol sy’n wynebu’r de gyda golygfeydd ysgubol dros y llyn, mannau hyblyg i gynnal digwyddiadau a chyfarfodydd, ac ardal chwarae meddal benodol i blant (bydd y maes chwarae yn agor yn yr wythnosau nesaf).
  • Maes chwarae antur y goedwig ‘Tyrau Gnoll, sef tri thŵr drigon cysylltiedig – pob un yn uwch na’r un o’r blaen, gyda’r talaf yn cyrraedd bron i 30 troedfedd.
  • Llety gwyliau sy’n croesawu cŵn, all gysgu hyd at chwech o bobl, yn llecyn hanesyddol Bwthyn y Pwll – arferai’r tŷ fod yn fwthyn i’r parcmon yn Oes Fictoria, ac mae’n cynnwys stôf sy’n llosgi pren gyda phren a ffynnonellir yn gynaliadwy o’r parc, gerddi preifat ac ardal i eistedd ble gellir mwynhau golygfeydd o bwll y parc a’i fywyd gwyllt.(Bydd y bwthyn ar gael i'w archebu cyn bo hir).
  • Gwaith sefydlogi a thrwsio adfeilion Tŷ Gnoll.
  • Adfer rhaeadrau hanesyddol y parc.
  • Gwefan newydd, brandio ac asedau gwybodaeth a dehongli ar draws y safle.
  • Llwybrau cerdded a hamddena, drwy gyfrwng pont newydd sy’n cysylltu’r parc â Fferm Brynau gerllaw, sy’n hafan 57 hectar i fywyd gwyllt dan reolaeth Coed Cadw.

Cwblhawyd y gwaith ar ran y cyngor gan y contractwyr Andrew Scott Ltd, un o gwmnïau contractio hynaf Cymru, gyda 150 mlynedd o brofiad ym maes adeiladu a gwaith peirianneg.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Bydd moderneiddio’r atyniad annwyl hwn ac adfer ei nodweddion hanesyddol yn cefnogi twf ein heconomi ymwelwyr, gan gynyddu apêl y parc a denu ymwelwyr ychwanegol i’r ardal.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet y cyngor dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae’r prosiect ailddatblygu yn y parc hanesyddol hwn wedi’i gwblhau, ac mae’r gwaith adnewyddu a’r cyfleusterau newydd bellach ar gael i’n preswylwyr ac ymwelwyr gael eu defnyddio.

“Er bod gan y Gnoll hanes maith a diddorol, mae’r gwaith a gwblhawyd fan hyn yn mynd i sicrhau y bydd yn chwarae rhan yn ein dyfodol, a bydd yn parhau i gynnig cyfuniad o harddwch naturiol a chyfleoedd hamdden, gan ddarparu lle ar gyfer ymlacio a lle ar gyfer hamddena bywiog.”

Mae gan y parc gwledig hanes hir ac anrhydeddus: y Frenhines Elisabeth I roddodd yr hawl gwreiddiol dros Ystâd Gnoll i Ieirll Penfro, ond teuluoedd Evans a Mackworth fu’n gyfrifol am ei ddatblygu’n llawn.

Y perchennog unigol cyntaf a gofnodwyd oedd Ifan ap Dafydd (Ifan yr Halen), a ddaeth yn gyfoethog drwy fasnachu halen, ac ar ôl blynyddoedd lawer o berchnogaeth gan y teulu Evans, pasiodd yr ystâd i eiddo Syr Humphrey Mackworth pan briododd ef â Mary Evans yn 1686.

Parodd Syr Humphrey Mackworth fod yr ystâd yn ganolbwynt i ymerodraeth ddiwydiannol, a dechreuodd ymestyn y tŷ a’r gerddi. Parhawyd â’r gwaith gan ei fab, Herbert Mackworth, a osododd y tiroedd ar ffurf gardd wedi’i thirlunio, ac ychwanegu nodweddion ffurfiol fel y rhaeadrau ac ogofdy.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth