Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Parciau Gnoll a Margam ill dau’n cael eu henwebu ymysg deg uchaf y lleoliadau glas ym Mhrydain

20 Tachwedd 2025

Mae Parc Gwledig Gnoll a Pharc Gwledig Margam yn rhestr Keep Britain Tidy o ddeg uchaf y llecynnau glas yn y Deyrnas Unedig.

Cynrychiolwyr a staff Cyngor Castell-nedd Port Talbot ym Mharc Gwledig Margam (gydag un o lamas y parc)

Mae’r parciau, sydd ill dau dan reolaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi dod yn enillwyr Dewis y Bobl 2024. Mae miloedd o bleidleisiau’n cael eu bwrw’n flynyddol gan ddefnyddwyr parciau o bob cwr o Brydain ar gyfer rhestr Dewis y Bobl o’r ‘deg uchaf ymysg mannau glas’ a drefnir gan dîm Gwobrau Baner Werdd Keep Britain Tidy.

Daw’r gydnabyddiaeth arbennig hon ar ôl i’r ddau safle ennill Gwobr y Faner Werdd, sy’n dipyn o glod, ynghynt eleni – nod ansawdd sy’n cydnabod llecynnau glas a reolir yn dda ac sydd o ansawdd uchel.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae gweld enw dau o barciau’r fwrdeistref sirol ymysg y gorau ym Mhrydain yn llwyddiant ardderchog, ac yn deyrnged i’r ymdrech wych fel tîm gan ein staff ymroddedig a’n gwirfoddolwyr angerddol, sy’n cynnal a chadw’r safleoedd hyn sydd mor annwyl gan gynifer o bobl, ac sy’n gofalu amdanyn nhw.

“Mae hi’n arbennig o foddhaus fod Parc Gwledig Gnoll wedi ennill y wobr hon ar yr un pryd â mynd drwy waith ailddatblygu gwerth miliynau lawer o bunnoedd i ddiweddaru’r cyfleusterau i ymwelwyr ac adfer nodweddion hanesyddol.”

Mae Parc Gwledig Margam a Pharc Gwledig Gnoll yn ddau o lecynnau glas mwyaf gwerthfawr Castell-nedd Port Talbot, gan gynnig cyfuniad unigryw o harddwch naturiol, treftadaeth, a chyfleoedd i hamddena.

Mae cael eu cydnabod yn barhaus gan gynllun nodedig Gwobr y Faner Werdd yn adlewyrchu’r safonau uchel o ofal, cynaliadwyedd, a hygyrchedd a gynhelir gan staff a gwirfoddolwyr ymroddedig. Nid yn unig mae’r parciau hyn yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, ond maen nhw’n llecynnau o bwys enfawr ar gyfer gweithgareddau corfforol, llesiant meddyliol, a chyswllt cymunedol ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Dywedodd rheolwr Gwobrau’r Faner Werdd, Paul Todd MBE: “Mae Parc Gwledig Margam a Pharc Gwledig Gnoll, a’r wyth safle arall sydd wedi ennill gwobr, yn cynrychioli rhai o unigolion a grwpiau mwyaf diwyd Prydain syn gweithio o fewn ein parciau o’r ansawdd uchaf – a chafodd hyn ei gydnabod a’i werthfawrogi’n amlwg gan y cyhoedd.”

Y deg parc a llecyn glas mwyaf poblogaidd yn y DU, a gyhoeddwyd ddydd Iau Tachwedd 20, 2025, gan Keep Britain Tidyyw:

  • Parc Beacon – Cyngor Dosbarth Caerlwytgoed (Lichfield) – Swydd Stafford
  • Gardd Enfys – Cymuned Gardd Enfys
  • Parc Gwledig Margam – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • Parc Gwledig Gnoll – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • Campws Singleton Prifysgol Abertawe – Prifysgol Abertawe
  • Parc Victoria (Tower Hamlets) – Bwrdeistref Tower Hamlets Llundain
  • Coedwig Warley Woods – Ymddiriedolaeth Cymuned Coedwig Warley Woods
  • Parc Wilton Lodge – Cyngor Gororau’r Alban
  • Parc Worden – Cyngor Bwrdeistref De Ribble
  • Parc Cassiobury – Cyngor Bwrdeistref Watford

Mae’r parciau’n darparu manteision hanfodol i bobl a’u hanifeiliaid anwes, gan gynnwys llecynnau diogel i ymarfer, chwarae ac ymlacio. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt a gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd.

Rheolir cynllun Gwobr y Faner Werdd gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy mewn partneriaeth â Cadw Cymru’n Daclus, Keep Scotland Beautiful a Keep Northern Ireland Beautiful.

I gael mwy o fanylion am y gwobrau a’r enillwyr, ewch i www.greenflagaward.org

 

                                                                                                  

 

 

 

hannwch hyn ar:
Cynrychiolwyr a staff Cyngor CNPT ym Mharc Gwledig y Gnoll (gyda chi anwes)

Rhannu eich Adborth