Datganiad I'r Wasg
Adrodd straeon creadigol yn dod â hud yr hydref i Barc Gwledig Gnoll
Mae'r erthygl hon yn fwy na 7 mis oed
26 Tachwedd 2025
Trawsnewidiwyd Parc Gwledig Gnoll yn ganolbwynt dychymyg a dathlu ynghynt yn y mis pan ymunodd disgyblion o Ysgol Gynradd yr Henadur Davies, Castell-nedd, â’r storïwr Michael Harvey ar gyfer diwrnod o antur yn yr awyr agored, ysgrifennu creadigol ac adrodd straeon diwylliannol.
Dan ofal Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot a Pharc Gwledig Gnoll, roedd y digwyddiad yn cofleidio’r tywydd oer hydrefol a llawenydd dysgu ymysg byd natur.
Fe wnaeth y disgyblion archwilio adrodd straeon yn yr awyr agored gan ddod â chwedlau’n fyw yn nodwedd fwyaf newydd y parc, Cadair y Gnoll.
Lluniwyd Cadair y Gnoll gan y cerflunydd lleol Garry Turler gan ddefnyddio pren o goeden annwyl y Golfen Amlwynebog – hen goeden ffawydd hynafol, sy’n ymddangos fel pe bai’n cuddio cyfres o wynebau oherwydd yr holl glymau a gwrymiau sydd ynddi. Bu’n rhaid tocio’r goeden yn ddifrifol oherwydd dirywiad naturiol.
Bellach, trodd yr orsedd yn gerflun trawiadol newydd, sy’n llechu wrth ochr pwll dŵr y parc, ychydig gamau oddi ar un o’r prif lwybrau. Gyda draig, tylluan a chigfran, a gerfiwyd o’r un goeden hefyd, yn cadw golwg dros yr orsedd, mae’n cynnig lleolid hudol ar gyfer myfyrio, adrodd straeon, a chysylltu â natur.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips: “Mae’r Golfen Amlwynebog wastad wedi bod yn rhan o’n tirwedd, a nawr mae’n dychwelyd â bywyd newydd ac ystyr newydd, a bu’n fendigedig gweld pobl yn mwynhau’r llecyn hwn gymaint.”
Roedd y digwyddiad hefyd yn nodi Diwali, gan olygu fod hwn yn gyfle perffaith i rannu straeon sy’n dathlu diwylliannau amrywiol. Fe osododd tîm y parc gamerâu bywyd gwyllt i wylio sut y bydd natur yn ymwneud â’r cerfluniau hefyd, gan ychwanegu haenen arall o ddealltwriaeth i’r profiad.
Mae trawsnewid y Golfen Amlwynebog hefyd yn cynnwys cerflun sy’n ddeniadol i’ natur yn edrych dros y pyllau dŵr, gan gynnwys wynebau’n llawn cymeriad, draig, ac ysbryd myfyrgar y coed.
Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU.
Estynnir croeso cynnes i ymwelwyr archwilio’r gosodiadau, mwynhau’r llecynnau adrodd straeon, a rhannu’u profiadau gan ddefnyddio #CadairYGnoll # a #GnollThrone.