Datganiad I'r Wasg
Arweinydd y cyngor yn croesawu £22 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau y mae proses bontio Tata wedi effeithio arnynt
Mae'r erthygl hon yn fwy na 7 mis oed
18 Rhagfyr 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi croesawu'r cadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd £22 miliwn yn rhagor yn cael ei ddarparu i gefnogi busnesau y mae newidiadau yn Tata Steel wedi effeithio arnynt, a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens MP.
Bydd y cyllid ychwanegol a gaiff ei ddarparu drwy Fwrdd Pontio Tata Steel yn helpu rhagor o gwmnïau lleol i fuddsoddi, tyfu, a chreu swyddi yn 2026.
Dywedodd y Cyngh. Steve Hunt, sef Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae'r newyddion am gyllid ychwanegol cyn y Nadolig yn hwb aruthrol i fusnesau lleol. Rydyn ni wedi gweld cryn dipyn o ddiddordeb yn y cronfeydd cymorth busnes hyn ac mae llawer o fusnesau wedi cael budd ohonynt, ac mae hyn yn golygu y gall ein Tîm Cymorth Busnes a Datblygu Economaidd helpu rhagor o gwmnïau i symud o her i dwf yn 2026 – gan fuddsoddi, arallgyfeirio a chreu swyddi sy'n talu'n dda ledled y rhanbarth.”
Daw'r cyhoeddiad mewn ymateb i'r galw uchel am y cyllid a ddarperir gan y Bwrdd Pontio a'r cymorth a roddir ganddo i fusnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot a ledled Cymru o fewn cadwyn gyflenwi Tata Steel.
Mae'r cyllid ychwanegol yn adeiladu ar yr £80 miliwn o gymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU yn wreiddiol er mwyn lliniaru effaith proses Tata Steel o newid i brosesau cynhyrchu dur gwyrddach. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys y cronfeydd Dechrau, Twf, Cadernid a Chadwyn Gyflenwi i fusnesau; y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau i unigolion yr effeithiwyd arnynt; prosiectau adfywio; a chymorth iechyd meddwl a llesiant.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau ac unigolion, ewch i: www.npt.gov.uk/cy/hwb-gwybodaeth-pontio-tata-steel