Datganiad I'r Wasg
Arian ar gael i hybu cynhwysiant digidol yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 3 mis oed
11 Ionawr 2026
Gall elusennau a chwmnïau diddordeb cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot wneud cais am gefnogaeth drwy’r Gronfa Gynhwysiant Digidol gwerth £15,750 bellach. Cynlluniwyd y gronfa i helpu sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant sgiliau digidol, mynediad i ddyfeisiadau, neu sy’n cynnal cynlluniau cefnogi cymunedol.
I fynegi diddordeb, e-bostiwch broadband@npt.gov.uk i drefnu sgwrs ddilynol.
Dyddiad cau gwneud ymholiadau: 12pm, 16 Ionawr 2026.
Mae’r cyllid hwn yn rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol BT fel partner cyflenwi Prosiect Mewnlenwi Gwell Band Llydan y Rhaglen Isadeiledd Digidol.
Gwybod am sefydliad allai elwa? Rhannwch y cyfle hwn gyda nhw.