Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Arddangosfa Plac Glas i nodi 80 mlynedd ers i actor o Gymru ennill Oscar am y tro cyntaf

27 Chwefror 2026

Bydd dyn o Gastell-nedd a sefydlodd waddol enfawr iddo’i hun yn Hollywood yn cael ei anrhydeddu â Phlac Glas i gofio amdano.

Ray Milland

Ymddangosodd Ray Milland ar y cyd â sêr eraill fel John Wayne a Grace Kelly a bu’n un o’r actorion oedd yn derbyn y cyflog uchaf gan Paramount yn ystod gyrfa dros 50 mlynedd.

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn datgelu’r plac mewn digwyddiad arbennig i gyd-fynd â phen blwydd 80 mlynedd gweld Ray Milland yn ennill Oscar – yr actor cyntaf o Gymru i wneud hynny.

Roedd 1946 yn flwyddyn arbennig iawn i Ray Milland, am iddo ennill tair gwobr fawr y flwyddyn honno. Yn ogystal â’r Wobr Academy (Oscar), ef hefyd gipiodd wobr yr Actor Gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes a gwobr Actor Gorau’r Golden Globes.

I anrhydeddu’i lwyddiannau, mae digwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim – a gefnogir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Tref Castell-nedd – yn cynnig golwg gyntaf ar y plac glas cyn ei osod ar ei gartref plentyndod ar Heol Dalton yn nes ymlaen.
 

Arddangosfa Ddathliadol

I nodi 80-mlwyddiant y flwyddyn fawr yng ngyrfa Ray Milland, cynhelir y digwyddiad yma:

Lleoliad: Neuadd Gymunedol Melincryddan, Heol Crydan, Castell-nedd, SA11 1TB

Dyddiad: Dydd Gwener 6 Mawrth  

Amser: 15:00-16:30
 

Yn ôl yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant y Cynghorydd Cen Phillips:

“Mae’n wych gallu anrhydeddu’r enillydd Oscar Cymreig cyntaf, Ray Milland. Cafodd yrfa anhygoel a daeth yn enw cyfarwydd iawn yn Hollywood.

“Mae’r plac glas yma’n dathlu ffigwr arall eto o blith y gwaddol diwylliannol eithriadol sydd gennym ar draws Castell-nedd Port Talbot gyfan.”
 

Daeth yr enwebiad llwyddiannus i osod Plac Glas i Ray Milland ar ôl ei fawr gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd (NAS), yn dilyn cais drwy gyfrwng Cynllun Placiau Glas Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Gallwch ddysgu mwy amdanynt yma:
https://www.facebook.com/NeathAntiquarianSocietyArchives
 

Meddai Cadeirydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, Jonathan Davies:

“Mae Ray Milland yn un o wir sêr Hollywood a actiodd gyda rhai o fawrion Hollywood y 1930, 40 a 50au. Nid yw wedi cael cynrychiolaeth deilwng yng Nghastell-nedd ac rydw i’n ddiolchgar iawn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Tref Castell-nedd am helpu i wireddu’r dathliad hwn o’i yrfa.

“Does gen i ddim amheuaeth nad oes llawer o bobl yn ein hanes sydd wedi cyrraedd mwy o bellafion byd a dweud wrthynt ei fod yn falch o’r ffaith ei fod yn dod o Gastell-nedd. Gwyddys iddo ddweud ‘Pan fydd pobl yn dweud wrtha i Rwyt ti’n Sais. Bydda i’n dweud nad Sais ydw i. Dwi’n Gymro. Gewch chi fy ngalw’n Brydeiniwr os dymunwch, ond peidiwch byth â ngalw i’n Sais’. Adroddwyd am ei farwolaeth ar bob cyfandir.”
 

Nod y cynllun Placiau Glas yw dathlu pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig ledled Castell-nedd Port Talbot. Ariennir dau Blac Glas pellach gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot eleni.

Mae gan fusnesau, grwpiau neu unigolion opsiwn i hunan-ariannnu plac glas hefyd, a fydd yn dal i orfod cael cymeradwyaeth gan y Cyngor. Gellir gwneud hyn drwy gyflwyno enwebiad ar lein gerbron panel dethol Tîm Treftadaeth CNPT, ac yna bydd argymhellion y panel yn mynd gerbron aelodau’r Cabinet i wneud penderfyniad terfynol.

Bydd ffenest ariannu Placiau Glas Coffa 2026 yng Nghyngor CNPT yn agor rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth