Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2026–2029
24 Mawrth 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi amlinellu’i Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2026/27 tan 2028/29, gan ddangos sut y mae’n buddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol, isadeiledd lleol, ac adfywio hirdymor ar draws y fwrdeistref sirol.
Cymeradwywyd y rhaglen gan y Cyngor er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel drwy gyfrwng cynllunio ariannol gofalus a buddsoddi cyfalaf a dargedir. Mae’n rhoi’r fframwaith y bydd modd i Gastell-nedd Port Talbot allu cynnal a gwella adeiladu drwyddo, cefnogi prosiectau adnewyddu mawr, a sicrhau fod asedau hanfodol yn parhau i fod yn addas ar gyfer eu pwrpas.
I gymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot, mae’r mentrau buddsoddi mawr yn cynnwys:
Lleoliad Dechrau Cyflogaeth a Busnes – gweithdai ychwanegol yn cael eu hadeiladu yng Nghanolfan Fusnes Sandfields
Cartrefi fel Pwerdai – mae prosiect Cartrefi fel Pwerdai (HAPS) yn fenter arloesol dan nawdd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth gyda chynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Ei nod yw integreiddio cynlluniau ynni-effeithiol a thechnolegau adnewyddadwy i mewn i gartrefi sy’n cael eu hadeiladu’n newydd a chartrefi sy’n cael eu hôl-osod, gan leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, lleihau allyriadau carbon, a thaclo tlodi tanwydd ar draws y rhanbarth.
Cronfa Codi’r Gwastad – Parhau i ddarparu cynlluniau isadeiledd o dan y rhaglen ariannu gan gynnwys:
Prosiect Denu Coridor Treftadaeth Cwm Nedd – Buddsoddiad mewn isadeiledd i ymwelwyr yng Ngwlad y Sgydau ym Mhontneddfechan. Mae’r prosiectau’n cynnwys buddsoddi mewn isadeiledd i ymwelwyr) fel parcio ceir, gwefru cerbydau trydan, toiledau cyhoeddus ac ati), llety newydd i ymwelwyr, gwelliannau i’r parth cyhoeddus a diogelu a dehongli asedau treftadaeth.
Rhaglen Adfywio Canol Tref Port Talbot – adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol, datblygu Sgwâr Dinesig Port Talbot a chyflwyno isadeiledd gwyrdd a gwella’r celfi stryd
Prosiect Heol Newbridge – bydd y prosiect hwn yn adfer ac ailagor pont hanesyddol Heol Newbridge yn Aberafan. Nid yn unig mae’r cynllun yn golygu adnewyddu’r bont restredig Gradd II, ond bydd hefyd yn gweld adeiladu llwybr a rennir rhwng cerddwyr a beicwyr ar gerbytffordd y bont, a diweddariadau i Heol Newbridge a Heol Glanyrafon.
Buddsoddi mewn ysgolion – mae’r rhaglen yn cynnwys buddsoddiad o £28.634m mewn ysgol newydd gynaliadwy ar gyfer YGG Rhosafan. Hefyd, cynhwysir buddsoddiad o £0.665m mewn gwaith cyn adeiladu yn Ysgol Gyfun Llangatwg gyda chaniatâd cynllunio wedi’i roi’n barod. Yn ogystal, rhoddir buddsoddiad o £0.671m ar gyfer gwaith cyn adeiladu ar gyfer estyniad i Ysgol Arbennig Maes-y-coed i roi lle i 40 disgybl ychwanegol.
Mae ein rhaglen gyfalaf ddiweddaraf ar gyfer 2025/26 yn £88.760m, gan adlewyrchu ceisiadau llwyddiannus am arian allanol, a record gref y Cyngor o sicrhau buddsoddiad ar gyfer rhaglenni adnewyddu ac isadeiledd lleol.
Mae’r Cyngor yn dal i fod yn ymroddedig i ddarparu prosiectau sy’n cryfhau ein cymunedau ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer preswylwyr ledled Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae’r Rhaglen Gyfalaf hon yn dangos ein hymrwymiad clir i fuddsoddi yn nyfodol Castell-nedd Port Talbot. Drwy flaenoriaethu gwasanaethau hanfodol, moderneiddio ein hisadeiledd, a chefnogi adfywio ar draws ein cymunedau, rydyn ni’n sicrhau fod ein preswylwyr yn elwa o gyfleusterau diogel, cynaliadwy, o ansawdd uchel am flynyddoedd i ddod.
“Er gwaetha pwysau ar gyllid, rydyn ni’n dal i fod yn canolbwyntio ar ddarparu cynllunio ariannol cyfrifol, hirdymor, sy’n cefnogi twf, yn cryfhau ein gwasanaethau, ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer pobl ar draws ein bwrdeistref sirol.”