Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Llwybr Rhaeadr Poblogaidd yn Ailagor ar ôl Prosiect Adfer Mawr yng Nghastell-nedd Port Talbot

24 Mawrth 2026

Mae llwybr troed cyhoeddus sy'n arwain at Raeadr Melin-cwrt bellach wedi ailagor diolch i waith helaeth yn dilyn difrod storm difrifol.

Melincwrt Waterfalls

Bu'n rhaid cau Gwarchodfa Natur Rhaeadr Melin-cwrt, a gaiff ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ar ôl i storm achosi erydu, tandorri a chwymp coed sylweddol ar hyd y llwybr. 

Mewn partneriaeth agos â'r Ymddiriedolaeth Natur a Thîm Bioamrywiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mae gwaith atgyweirio hanfodol bellach wedi'i gwblhau er mwyn sicrhau mynediad diogel i bawb unwaith eto. Mae'r llwybr troed yn rhan o warchodfa natur ehangach 12 erw o faint.

Dyma grynodeb o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud:

-    Bu'r contractwyr yn brwydro yn erbyn tywydd heriol y gaeaf yn Resolfen i sefydlogi'r llwybr, ailadeiladu mur cynnal amddiffynnol a gwella'r arwyneb, gan wneud y llwybr yn fwy hygyrch.

-    Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys tirfesur a thrawsblannu rhywogaethau Coedwigoedd Glaw Celtaidd pwysig sydd i'w cael ar y safle, gan helpu i ddiogelu a chyfoethogi bioamrywiaeth leol.

-    Gwnaed gwelliannau ychwanegol i gynefinoedd er mwyn cefnogi rhywogaeth restredig Titw'r Helyg, gan greu gwell amodau sy'n annog yr aderyn hwn sy'n lleihau mewn niferoedd ledled y wlad i nythu yn yr ardal.

Daw'r gwaith atgyweirio hwn yn dilyn gwelliannau diweddar i'r maes parcio gerllaw, gan wella'r profiad ymwelwyr yn gyffredinol.
Tra oedd y warchodfa ar gau, gwelwyd dyfrgwn ac eogiaid yn teithio drwy'r afon hefyd, gan ein hatgoffa pa mor gyfoethog yw ecoleg y warchodfa hon.


Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cyngh. Cen Phillips:

“Mae Rhaeadr Melin-cwrt yn un o'r tirnodau naturiol rydyn ni'n eu trysori fwyaf, ac rwyf wrth fy modd yn gweld y llwybr yn cael ei ailagor yn ddiogel ar gyfer trigolion ac ymwelwyr. Nid yn unig y mae'r gwaith adfer yn diogelu'r llwybr poblogaidd iawn hwn at y dyfodol, ond mae hefyd yn cefnogi'r bywyd gwyllt a'r cynefinoedd anhygoel sy'n gwneud y warchodfa'n lle mor arbennig. 

"Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ein Tîm Bioamrywiaeth a'r contractwyr am eu gwaith caled mewn amodau heriol. Gan fod y gwelliannau bellach wedi'u cwblhau, y gwanwyn hwn yw'r adeg berffaith i ailddarganfod y warchodfa natur hardd hon.”


Dywedodd Rheolwr Gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Paul Thornton:

“Cafodd Storm Darrah a gaeaf garw 2024/25 effaith fawr ar y warchodfa, gan olygu y bu'n rhaid cau'r llwybr am dros flwyddyn, felly rydyn ni mor falch bod y llwybr bellach wedi cael ei wella ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr â'r warchodfa natur. 

“Er mai'r rhaeadr oedd y prif atyniad i dwristiaid o hyd tra oedd y llwybr ar gau, fe wnaethon ni ddysgu pa mor bwysig yw'r warchodfa natur i bobl leol, gan gynnwys rhai sy'n ymweld yn ddyddiol i ymgysylltu â byd natur. Mae'n wych gallu cynnig mynediad i bob defnyddiwr unwaith eto, a bod y llwybr wedi cael ei wneud yn fwy gwydn i wrthsefyll gaeafau gwlyb parhaus.

“Hoffem ddiolch yn fawr i'r cyllidwyr ac i Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot a arweiniodd y prosiect hwn.”


Roedd y prosiect adfer hwn yn bosibl diolch i £86,401.50 o gyllid o Gronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae'r buddsoddiad hwn wedi galluogi gwaith brys i ddiogelu'r warchodfa arbennig hon am flynyddoedd i ddod.

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth