Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod cynlluniau i fuddsoddi £64 miliwn ynghlwm â phorthladd Port Talbot
30 Mawrth 2026
Yn dilyn cyhoeddiad ddoe ynghylch cynlluniau i gefnogi datblygu gwynt arnofiol oddi ar yr arfordir ym Mhort Talbot, mae Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi'r datganiad isod.
Dywedodd Frances O'Brien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae dewis Port Talbot fel un o borthladdoedd cyntaf y DU i gefnogi gwynt arnofiol oddi ar yr arfordir yn cynrychioli cam enfawr ymlaen o ran gosod yr ardal wrth galon sector ynni glân sy'n tyfu'n gyflym.
"Mae datblygu gwynt arnofiol oddi ar yr arfordir yn y Môr Celtaidd yn cynnig potensial i drawsnewid yr economi leol. Gyda lleoliad strategol Port Talbot, gall y prosiect hwn helpu i greu swyddi o safon uchel, agor cyfleoedd cadwyn gyflenwi helaeth i fusnesau lleol, a denu buddsoddiad sylweddol hirdymor i mewn i Gastell-nedd Port Talbot a'r rhanbarth yn ehangach.
"Fel Cyngor, rydyn ni'n parhau i fod yn ymroddedig i weithio'n agos gyda'n partneriaid i gefnogi'r datblygiad wrth iddo fwrw ymlaen, gan sicrhau fod ein cymunedau'n elwa o'r cyfleoedd economaidd, sgiliau ac adfywio a grëir yn ei sgil.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn atgyfnerthu'r rhan hanfodol y gall Port Talbot ei chwarae wrth i Brydain bontio i ynni glân, ac mae'n cryfhau ein huchelgais i weld dyfodol mwy ffyniannus i bobl a busnesau lleol."