Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Help gyda chostau gwresogi olew ac LPG

09 Ebrill 2026

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'n ddiweddar y bydd aelwydydd sy'n dibynnu ar olew neu nwy petrolewm hylifedig (LPG) i wresogi'u cartref ac sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor, yn derbyn taliad untro o £200 i helpu gyda chostau cynyddol gwresogi.

Help gyda chostau gwresogi olew ac LPG

Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn disgwyl am arweiniad terfynol oddi wrth Lywodraeth Cymru o ran sut y bydd y cynllun yn gweithredu'n lleol, a phryd y gwneir taliadau. Cyn gynted ag y bydd gennym ragor o fanylion, byddwn ni'n cysylltu'n uniongyrchol ag aelwydydd sy'n gymwys.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw, fe all fod cefnogaeth arall ar gael. Ewch i'n tudalen Help gyda Chostau Byw i gael mwy o wybodaeth: https://www.npt.gov.uk/cy/tai-a-budd-daliadau/help-gyda-chostau-byw/

Gallwch hefyd ddarllen cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y taliad yn ei gyfanrwydd yma: https://www.llyw.cymru/miloedd-o-aelwydydd-yng-nghymru-i-gael-help-gyda-chostau-gwresogi-olew-ac-lpg

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth