Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cymeradwyo cynllunio Canolfan Alwedigaethol Cyn-16 newydd ym Mhort Talbot

10 Ebrill 2026

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyrraedd carreg filltir allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r Ganolfan Alwedigaethol Cyn-16 arfaethedig yn hen adeilad y Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell ac Adnoddau (ELRS) ar gornel Stryd Reginald a Stryd Villiers, Felindre, Port Talbot. Yn dilyn ymgynghori gyda phobl ifanc, enwyd y ganolfan yn Llwybrau i Gynnydd Trefelin, a bydd yn adeiladu ar y gwaith addysg alwedigaethol sydd eisoes yn digwydd mewn ysgolion ledled CNPT, i baratoi ar gyfer y cymwysterau galw

ELRS

Bellach, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect, gan alluogi i waith cynllunio manwl ddatblygu, a galluogi trawsnewid yr adeilad o Oes Fictoria, sy'n segur ar hyn o bryd i gael ei newid yn gyfleuster dysgu modern, cynaliadwy. Mae'r prosiect yn cael ei ddarparu yn unol â'r Rhaglen Wella Ysgolion Strategol, gyda chyllid yn dod oddi wrth Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. 

Bydd y ganolfan newydd yn cefnogi dysgwyr 14–16 oed, drwy ddarparu hyfforddiant galwedigaethol ymarferol, dwyieithog, ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Mae'r rhain yn cynnwys crefftau adeiladu, trin gwallt a harddwch, lletygarwch ac arlwyo, gofal anifeiliaid, peirianneg, cyfryngau creadigol, teithio a thwristiaeth, a llwybrau digidol sy'n cael eu hamlygu. Mae'r datblygiad yn cyd-fynd â'r ailstrwythuro sy'n digwydd i gymwysterau cenedlaethol a ddylai ddechrau yn 2027.

Bydd y ganolfan yn galluogi ymestyn rhaglen boblogaidd Llwybrau i Gynnydd mewn ysgolion. Mae hyn eisoes yn cynnig cyfle unigryw i ddysgwyr mewn ysgolion ymgysylltu â chymwysterau a ddarperir gan diwtoriaid galwedigaethol a hyfforddwyd yn arbenigol sydd wedi gweithio yn eu diwydiannau cyn hyn. Bydd yn galluogi ysgolion a dysgwyr i ymgymryd â'r cymwysterau hyn mewn gweithdai galwedigaethol a adeiladwyd yn bwrpasol, ac yn galluogi ysgolion i gynnig cyfleoedd galwedigaethol helaethach, gan sicrhau cydraddoldeb i gymwysterau galwedigaethol ar draws ysgolion Castell-nedd Port Talbot.

Ers gwneud y cyhoeddiad gwreiddiol, gwnaed cynnydd sylweddol o ran mireinio'r cynllun. Mae'r cynllun a gymeradwywyd yn ymgorffori dull deunydd yn gyntaf, ôl-osod carbon isel, ac mae'n cynnwys diweddariad mawr i feili canolog y safle, a fydd yn cael ei amgáu â chanopi ysgafn ETFE i greu lleoliad cymdeithasol a dysgu hyblyg sy'n ddiogel rhag tywydd.

Mae'r cynllun hefyd yn ymgorffori nodweddion sy'n hybu natur, fel llecynnau glas newydd, gwell tirlunio a systemau draenio uwchraddedig. Bydd y rhain yn harddu'r amgylchedd addysgol ac yn cefnogi bioamrywiaeth a darparu manteision amgylcheddol i'r gymuned ehangach ar yr un pryd.

Mae'r gwaith hyd yn hyn wedi cynnwys ymgysylltu helaeth â phreswylwyr, ysgolion, timau gwasanaeth ac arbenigwyr technegol. Bydd y camau nesaf yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer adeiladu, penderfynu'n derfynol ar gynlluniau mewnol, a chydlynu ardaloedd galwedigaethol arbenigol i sicrhau fod y cyfleuster yn llwyr ateb anghenion dysgwyr, y cwricwlwm a'r gymuned.

Ar ôl ei orffen, bydd y Ganolfan Alwedigaethol yn darparu cyfleuster penodedig, gweledigaethol fydd yn cefnogi datblygu sgiliau ymarferol, llwybrau i gyflogaeth a chyfleoedd dysgu cymunedol i bobl Castell-nedd Port Talbot.  

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth