Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Dedfrydu dyn ar ôl i gyllyll a gwastraff o gartrefi gael ei dipio'n anghyfreithlon yng Nghastell-nedd.

13 Ebrill 2026

Cafodd dyn ei ddedfrydu a'i ddirwyo am drosedd tipio anghyfreithlon, ar ôl i gyllyll rhydd a gwastraff o gartref gael ei ddarganfod wedi'i adael yng Nghastell-nedd.

Waste left by Arron Lee Dixon on Foundry Road.

Darganfu archwilwyr sawl bag du ar Heol Ffowndri, gerllaw'r grisiau sy'n cysylltu â Heol y Maes, mewn ardal a elwir yn gyffredin yn Gwm Llwyneryr, ac a ddefnyddir yn aml gan garedigion byd natur.

Wrth i'r gwastraff gael ei archwilio, daeth unigolyn mewn car Range Rover at yr archwilwyr gan fynegi rhwystredigaeth a defnyddio iaith dreisgar. Aeth y ddau swyddog o'r Cyngor o'r ardal wrth i'r unigolyn fynd i mewn i'w iard oedd wrth ochr lleoliad y tipio anghyfreithlon.
Cafodd yr unigolyn hwnnw ei adnabod yn ddiweddarach fel Arron Dixon, 26 oed.

Roedd tystiolaeth a gafwyd ymysg y gwastraff, a ganfuwyd ar 14 Ebrill 2025, yn ei gysylltu â chyfeiriad yn Nyffryn Afan. Cyfaddefodd menyw ei bod hi wedi trefnu i Arron Dixon gymryd y gwastraff i ffwrdd, a helpodd hi'r swyddogion gyda'u hymholiadau.

Cadarnhaodd chwiliad Treth y Cyngor fod Mr Dixon yn byw yn Llansawel. Yn ystod cyfweliad olynol, darparodd hanes gwrthgyferbyniol am ddigwyddiadau, oedd yn gwrth-ddweud tystiolaeth gan dystion. 

Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Iau 2 Ebrill, plediodd Arron Lee Dixon (Dyddiad Geni 26 Ionawr, 1992) o Orllewin Stryd Regent, Llansawel, yn euog i adael gwastraff a reolir yn anghyfreithlon, a gorchmynnwyd y dylai dali bron i fil o bunnoedd, gan gynnwys dirwy o £200, costau erlyn o £498, iawndal o £148.63 am glirio'r gwastraff, ac ardoll dioddefwr o £80.  
 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth