Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Dathlu Arwyr Di-glod Castell-nedd Port Talbot yng Ngwobrau Dinasyddion y Maer

28 Ebrill 2026

Mae plentyn 9 oed ymhlith enillwyr y Gwobrau Dinasyddion Lleol eleni, a gyflwynwyd mewn seremoni a gynhaliodd Maer a Maeres Castell-nedd Port Talbot ym Mharc Margam.

Mayor's 'Special Recognition Award' winner, Neath Foodbank

Yn ystod y noson arbennig yn yr Orendy, cafodd cyfanswm o 13 o wobrau eu cyflwyno, ac roedd y straeon a glywyd yn amrywio o'r cwlwm annhoradwy rhwng chwiorydd i achub bywyd dieithryn (gweler rhestr lawn o'r enillwyr isod). 


Hefyd, helpodd raffl i godi cannoedd o bunnau i ddwy elusen a ddewiswyd gan y Cyngh. Wayne Carpenter a Mrs Carol Carpenter, sef Type-1-derful a Chymdeithas Alzheimer Cymru.


Gwobrau Dinasyddion y Maer – Enillwyr 2026
Dyma enillwyr y gwobrau ym mhob un o'r categorïau. Sylwer bod rhywfaint o'r wybodaeth yn cynnwys manylion a all beri gofid.
 

Gwobr Plentyn Dewr (noddir gan Trade Centre Wales)
Enillydd: Shantia Gilley
Cefndir: Gwnaeth Shantia o Flaendulais benderfyniad dewr i gael trawsblaniad mêr esgyrn a bôn-gelloedd er mwyn ceisio achub ei chwaer 7 oed, Sharelle, a oedd wedi cael diagnosis o AML – math acíwt o lewcemia. Yn dilyn y llawdriniaeth, dim ond drwy alwadau fideo roedd modd iddynt gadw mewn cysylltiad. Er i Shantia gyfateb 100%, dychwelyd a wnaeth canser Sharelle yn anffodus, a bu farw ym mis Chwefror 2025. Dywed eu mam y bydd y cwlwm annhoradwy rhwng ei merched yn gysur am byth.

 

Gwobr Gofalwr Ifanc (noddir gan Yr Orendy, Parc Margam)
Enillydd: Arlo Davies
Cefndir: Er mai dim ond 7 oed yw Arlo, dywed ei deulu ei fod yn dangos cariad, cryfder a thosturi ymhell y tu hwnt i'w oedran. Mae gan ei frawd hŷn, Alfie, awtistiaeth ac anawsterau dysgu dwys. Er bod Alfie'n blentyn di-eiriau, ni allai'r cyfathrebu rhwng y brodyr fod yn gliriach diolch i'r ffaith bod Arlo'n deall ei holl anghenion. Mae Arlo hefyd wedi codi £1,000 i ysgol Alfie ym Mryn-coch.

 

Gwobr Athro'r Flwyddyn (noddir gan Ganolfan Diwtora Kip McGrath)
Enillydd: Cath Tucker
Cefndir: Cafodd Cath Tucker, sef Dirprwy Bennaeth Ysgol Maes y Coed ym Mryn-coch, ei henwebu am ei hymroddiad a'i hymrwymiad diwyro i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Hefyd, dechreuodd fenter codi arian er mwyn i fyfyrwyr allu creu atgofion i bara oes.  



Gwobr Dewrder Eithriadol (noddir gan Runtech)
Enillydd: Elin Locke
Cefndir: Elin Locke oedd y person cyntaf i gyrraedd safle achos o daro a ffoi ar yr A465 y llynedd. Roedd coes y dyn wedi cael ei thorri i ffwrdd mewn modd trawmatig. Rhoddodd Elin rwymyn tynhau am ei goes er mwyn rheoli'r gwaedu. Dywed parafeddygon fod ei gweithred ddigynnwrf a phendant wedi achub ei fywyd. Seremoni'r Gwobrau Dinasyddion oedd y tro cyntaf iddynt weld ei gilydd ers y digwyddiad hwnnw.

 

Gwobr Cymydog Da (noddir gan Associated British Ports)
Enillydd: Leo Farthing
Cefndir: Mae Leo, sy'n 9 oed, yn casglu bwyd dros ben o archfarchnad ar gyfer oergell canolfan gymunedol sy'n helpu'r teuluoedd mwyaf anghenus. Yn ystod toriad pŵer, helpodd i sicrhau bod gan bobl brydau bwyd poeth, a gwnaeth hyd yn oed ganu larwm ar gyfer trigolyn a oedd wedi cwympo. Mae hefyd yn godwr sbwriel brwd, a gellir ei weld yn rheolaidd yn cadw'r Creunant yn lân.

 

Gwobr yr Amgylchedd a Threftadaeth (noddir gan Andrew Scott Limited)
Enillydd: Gwirfoddolwyr Parc Glan Afon Glantawe
Cefndir: Mae'r tîm gweithgar hwn o wirfoddolwyr wedi gweddnewid hen safle diwydiannol yn barcdir bioamrywiol hardd. Maent yn cydweithio'n agos â'r gymuned leol i gasglu straeon ac atgofion sy'n rhoi hwb i naws y parc. Mae'r safle 26 erw hefyd yn gweithredu fel hyb addysg.

 

Gwobr Iechyd a Llesiant (noddir gan Centregreat Limited)
Enillydd: Darren Chapple a Thîm Parkrun y Gnoll
Cefndir: Ras 5k am ddim yw Parkrun y Gnoll, ac mae wedi bod yn cefnogi iechyd a llesiant y gymuned ers mwy na degawd. Caiff ei chynnal bob bore Sadwrn yn lleoliad hardd Parc Gwledig y Gnoll yng Nghastell-nedd.

 

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn (noddir gan Arch Noa)
Enillydd: Ann Mayers
Cefndir: Mae Ann Mayers wedi gwirfoddoli yn Siop Gymunedol Llansawel ar Stryd Villiers ers dros 30 mlynedd. Dywed ei staff ei bod, fel Rheolwr, yn sicrhau y bydd pob ceiniog yn mynd yn ôl i mewn i'r gymuned. Mae Ann a'i thîm wedi codi mwy na hanner miliwn o bunnau i elusennau ac achosion da lleol.

 

Gwobr y Celfyddydau Perfformio (noddir gan Ganolfan Celfyddydau Pontardawe)
Enillydd: Cwmni Theatr Mess Up the Mess
Cefndir: Mae'r fenter nid-er-elw hon yng Ngwauncaegurwen yng Nghwm Aman wedi bod yn defnyddio creadigrwydd a dychymyg i rymuso eraill drwy'r theatr a'r celfyddydau ledled De Cymru ers 2005. Mae'n croesawu'r Gymraeg a'r Saesneg ac yn credu y dylai syniadau a theimladau pobl ifanc sbarduno pob perfformiad.

 

Gwobr Pencampwr Cymunedol (noddir gan Ganolfan Siopa Aberafan)
Enillydd: Margaret Davies
Cefndir: Fel Cadeirydd ‘Forward 4 Fairyland’ yng Nghastell-nedd, mae Margaret Davies, sy'n 84 oed, yn parhau i arwain yn frwdfrydig ac yn benderfynol ar ôl 23 mlynedd. Mae'r grŵp cymunedol, a gaiff ei redeg gan bwyllgor o ddim ond pedwar gwirfoddolwr, wedi gweddnewid Ystad Fairyland yn lle a ddiffinnir gan falchder, cyfranogiad a newid cadarnhaol.

 

Gwobr Cyfraniad i Elusen (noddir gan TATA Steel UK)
Enillydd: Charlotte Moses
Cefndir: Yn anffodus, collodd Charlotte ei chwaer, Meg, yn dilyn brwydr â chanser y stumog. Caiff Meg, a oedd yn 29 oed, ei disgrifio fel rhywun “â chynhesrwydd a fyddai'n llenwi ystafell a synnwyr digrifwch rhyfeddol”. Mae Charlotte wedi codi mwy na £12,000 i Ysbyty Singleton er mwyn diolch iddo am roi'r “gofal mwyaf rhyfeddol” i Meg.

 

Gwobr Seren Chwaraeon y Flwyddyn (noddir gan Glwb Rygbi Aberafan)
Enillydd: Hannah Brier
Cefndir: Mae Hannah yn llwyddo i gyfuno gyrfa athletau o'r radd flaenaf â'i gwaith o ddydd i ddydd fel gweithiwr ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, lle mae'n cefnogi pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio rhag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae Hannah wedi cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr ar y llwyfan rhyngwladol mewn rasys 100m, 200m a 4x400m. Mae hefyd wedi cael ei dewis i fod yn rhan o dîm Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn Japan.

 

Gwobr Cyfraniad Arbennig y Maer
Enillydd: Banc Bwyd Castell-nedd 
Cefndir: Mae Banc Bwyd Castell-nedd wedi cefnogi miloedd o bobl ers iddo ddechrau gwasanaethu'r gymuned yn 2011. Mae'n gweithredu o Orchard Place fel rhan o Rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell, gan deilwra parseli bwyd yn unol ag anghenion aelwydydd. Caiff y tîm o 40 o wirfoddolwyr ei uno gan ymrwymiad cyffredin i helpu eraill.

 

Yn ôl Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Wayne Carpenter,

"Hoffwn ddiolch i'r holl enillwyr a'r bobl a'u henwebodd nhw am fynychu noson arbennig iawn. Roedd safon y cynigion a dderbyniwyd eleni'n eithriadol o uchel, ac roedd gallu dewis dim ond un enillydd ar gyfer pob categori'n golygu fod y dethol yn waith eithriadol o anodd.

"Cefais fy nghyffwrdd gan y straeon, ac rwy mor falch ein bod ni wedi gallu cydnabod y bobl eithriadol hyn yn ein cymunedau.
"Dwi hefyd yn ddiolchgar am yr arian a godwyd ar y noson ar gyfer fy nwy elusen ddethol. Mae pob ceiniog yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.”

 

Meddai Rheolwr Materion Cyhoeddus a Chymuned Tata Steel DU, Lewis Clark,

"Roedd e'n wych bod yn rhan o ddigwyddiad Gwobrau Dinasyddion Castell-nedd Port Talbot ardderchog arall – sy’n amlygu goreuon y gymuned leol. 

"Diolch i’r holl enillwyr am eich gwaith caled wrth wella ein hardal leol; ac i'r trefnwyr am gynnal noson wych. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi'r digwyddiad eto yn 2027." 



Meddai Cadeirydd a Sylfaenydd Trade Centre Wales, Mark Bailey,  

"Roedden ni yn Trade Centre Wales wrth ein boddau ac yn falch o gefnogi Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot unwaith eto. Llongyfarchiadau i'r holl enwebedigion ac enillwyr y gwobrau.

“Roedd yn wych cael chwarae rhan wrth adnabod a gwobrwyo pobl mor ysbrydoledig y mae eu hymdrechion anhunanol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gynifer o bobl yn ein cymunedau."

 

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth