Datganiad I'r Wasg
Y Cyngor yn Lansio Adnodd Ar-lein i Roi'r Wybodaeth Ddiweddaraf i Drigolion am Ddiogelwch Tomenni Glo
22 Mai 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio adnodd ar-lein newydd er mwyn rhoi gwybodaeth hygyrch i drigolion am ddiogelwch tomenni glo ledled y fwrdeistref sirol.
Mae'r tudalennau gwe arbennig, sydd ar gael yn www.npt.gov.uk/cy/tomenni-glo yn dod â gwybodaeth gyfredol ynghyd am yr holl domenni glo hysbys yng Nghastell-nedd Port Talbot, ochr yn ochr â dolenni i adroddiadau technegol a chanllawiau manwl.
Caiff yr adnodd ei lansio yn dilyn gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ar lefel genedlaethol i atgyfnerthu'r ffordd y caiff tomenni nas defnyddir eu goruchwylio. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cofrestr Tomenni Glo Genedlaethol, sydd wedi'i hategu gan raglen o archwiliadau a gynhelir ar ei rhan gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (yr Awdurdod Glo gynt). Bydd awdurdodau lleol ac asiantaethau partner hefyd yn cynnal archwiliadau ychwanegol yn ôl yr angen.
O fis Ebrill 2027 ymlaen, bydd Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru yn gyfrifol am archwilio tomenni glo nas defnyddir ledled y wlad.
Mae tudalennau gwe newydd y cyngor yn cynnwys gwybodaeth am domenni glo a thomenni chwareli. Gall trigolion weld adroddiadau technegol, cael gwybod rhagor am y ffordd y caiff tomenni eu monitro, a deall y gwaith sy'n cael ei wneud i reoli unrhyw risgiau.
Mae'r adnodd ar-lein newydd hefyd yn cynnwys dolen benodol i'r adroddiadau technegol ar y tomenni uwchben adeilad ysgol Godre'r-graig.
“Mae'r adroddiadau'n nodi'r risgiau symudiad ar y llechweddau pe bai adeilad ysgol Godre'r-graig wedi aros ar agor i blant neu ddefnyddwyr eraill.
“Yn dilyn yr argymhellion y cytunwyd arnynt gan y Cyngor, y peirianwyr ymgynghori a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio ffiniau'r tomenni sydd i'w gweld ar ei chofrestr genedlaethol yn y diweddariad nesaf yn ystod hydref 2026.”
Yn unol â diweddariadau blaenorol, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn parhau i gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn dryloyw ac yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Caiff adroddiadau technegol eu hychwanegu wrth i wybodaeth fonitro newydd gael ei rhyddhau.
Mae'r cyngor hefyd yn cynnig pwynt cyswllt uniongyrchol i drigolion sydd am ofyn cwestiynau neu roi gwybod am bryderon. Gellir anfon ymholiadau i coaltips@npt.gov.uk, a bydd hynny'n sicrhau y gall trigolion gael gwybodaeth gywir ac amserol.
Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad a sicrhawyd yn gynharach eleni er mwyn gwella diogelwch tomenni glo ledled y fwrdeistref sirol.
Llwyddodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gael £3.6 miliwn drwy Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gwaith archwilio, cynnal a chadw a lliniaru ar fwy na 620 o safleoedd hen domenni glo. Mae'r cyllid yn rhan o raglen ehangach gwerth £80 miliwn ledled Cymru.
Bydd y cyllid yn helpu i wneud y canlynol:
• Sefydlu Tîm Rheoli Tomenni penodedig a fydd yn cynnal archwiliadau ac yn cynllunio gwaith y dyfodol
• Cydweithio'n barhaus â'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio
• Gwneud gwaith lliniaru wedi'i dargedu ar safleoedd lle y nodir bod angen ymyriadau yn seiliedig ar risg
“Mae diogelu cymunedau rhag tomenni glo anniogel yn hanfodol. Mae'r adnodd ar-lein newydd hwn yn rhan o'n hymrwymiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am y gwaith sy'n cael ei wneud.
“Ar y cyd â'r cyllid rydyn ni wedi'i sicrhau, mae'n dangos ein dull rhagweithiol o reoli diogelwch tomenni glo a mynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hachosi gan y safleoedd.
“Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i drigolion bod eu diogelwch yn flaenoriaeth o hyd.”
Anogir trigolion i fynd i'r tudalennau gwe newydd i ddysgu mwy am ddiogelwch tomenni glo, i weld gwybodaeth dechnegol, ac i gael gwybod y diweddaraf am y gwaith sy'n mynd rhagddo ledled Castell-nedd Port Talbot.