Datganiad I'r Wasg
Y Cabinet yn cymeradwyo ymgynghoriad ar Bolisi Cymorth Teithio i Ddysgwyr wedi'i ddiweddaru
28 Mai 2026
Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau i ymgynghori ar Bolisi Cymorth Teithio i Ddysgwyr wedi'i ddiweddaru, sydd â'r nod o wneud cymhwysedd disgyblion i gael cymorth teithio yn gliriach, yn decach ac yn haws ei ddeall.
Caiff ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal o 8 Mehefin tan 5 Gorffennaf 2026, gan roi cyfle i ddisgyblion, rhieni a gofalwyr, staff, llywodraethwyr ac eraill rannu eu barn cyn i'r cyngor gytuno ar unrhyw bolisi terfynol.
Mae'r polisi'n esbonio sut y caiff penderfyniadau eu gwneud ynglŷn â chymhwysedd disgyblion i gael cymorth teithio. Mae hyn yn cynnwys rôl yr ysgol addas agosaf, a ddefnyddir wrth benderfynu p'un a ellir rhoi cymorth teithio ai peidio. Yn y polisi ceir esboniad o'r ffordd y penderfynir ar hyn, a'r cysylltiad rhwng hyn a threfniadau derbyn i ysgolion. Mae hefyd yn nodi adegau pan all cymorth yn ôl disgresiwn fod ar gael, er enghraifft ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, ysgolion ffydd, darpariaeth ôl-16, neu pan fydd anghenion unigol penodol.
Mae'r diweddariad arfaethedig yn adlewyrchu newidiadau ym mholisi Llywodraeth Cymru ers iddo gael ei adolygu ddiwethaf yn 2017 a sut y bydd y cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol. Hefyd, mae'n ceisio sicrhau bod trefniadau sy'n helpu dysgwyr i deithio i'r ysgol ac oddi yno yn deg ac yn gyson i bawb o hyn ymlaen.
Fel rhan o'r diweddariad, mae enw'r polisi wedi cael ei newid o “Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol” i “Cymorth Teithio i Ddysgwyr” er mwyn adlewyrchu dull ehangach sy'n cynnwys amrywiaeth o opsiynau teithio. Ymhlith y rhain mae dulliau teithio traddodiadol yn ogystal â dewisiadau amgen fel cyllidebau teithio personol, hyfforddiant teithio annibynnol a theithio llesol lle bo hynny'n ddiogel ac yn briodol.
Mae'r polisi hefyd yn ceisio sicrhau prosesau cliriach ar gyfer adolygu penderfyniadau ac apeliadau er mwyn i deuluoedd ddeall yn well sut y caiff cymorth ei roi. Ni fydd y trefniadau presennol yn newid ar hyn o bryd o ganlyniad i'r polisi ei hun, ond mae'n bosibl y caiff achosion eu hadolygu yn unol â newidiadau i amgylchiadau unigol a meini prawf cymhwysedd. Ar y cyfan, bwriedir i'r newidiadau gefnogi dull tecach a mwy cyson o asesu cymhwysedd i gael cymorth, a rhoi'r cymorth hwnnw.
Dywedodd y Cyngh. Nia Jenkins, sef yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar: “Mae penderfyniad y Cabinet i fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig ymlaen er mwyn sicrhau bod ein trefniadau teithio i ddysgwyr yn glir, yn gyson ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
“Mae helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd lleoliadau addysg yn ddiogel yn flaenoriaeth allweddol o hyd, ac mae'r cynigion hyn wedi'u bwriadu i adlewyrchu anghenion presennol gan barhau i fod yn deg ac yn dryloyw ar yr un pryd.
“Byddem yn annog pawb sydd â diddordeb mewn trefniadau teithio i ddysgwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eu barn er mwyn helpu i lywio'r polisi terfynol.”
Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y cyngor yn www.npt.gov.uk/cy/ymgynghoriadau. Bydd copïau wedi'u hargraffu o'r ddogfen ymgynghori a'r holiadur ar gael drwy ysgolion ac yn llyfrgelloedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sef:
- Llyfrgell Baglan (Rhodfa Laurel, SA12 8PA)
- Llyfrgell Cwmafan (Heol Depot, SA12 9DF)
- Llyfrgell Glyn-nedd (Rhodfa'r Parc, SA11 5DW)
- Llyfrgell Castell-nedd (Stryd y Dŵr, SA11 3EP)
- Llyfrgell Pontardawe (Stryd Celyn, SA8 4ET)
- Llyfrgell Port Talbot (Canolfan Siopa Aberafan, SA13 1PB)
- Llyfrgell Sandfields (Heol Morrison, SA12 6TG)
- Llyfrgell Sgiwen (Neuadd Carnegie, SA10 6LH)
Byddwn hefyd yn cynnal tri digwyddiad galw heibio y bydd croeso i chi fynd iddynt:
- Llyfrgell Pontardawe, 11 Mehefin 2026 (9:30am – 11:30am)
- Llyfrgell Port Talbot, 18 Mehefin 2026 (10am – 12pm)
- Neuadd y Dref Castell-nedd, 30 Mehefin 2026 (9:30am – 11:30am)
Hefyd, gellir cyflwyno ymatebion yn ysgrifenedig i'r Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes (At sylw: Tîm Cludiant Addysg), Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.