Datganiad I'r Wasg
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol Ar Gael
28 Mai 2026
Yn ystod mis Mawrth 2026, comisiynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot arolwg signal ffonau symudol ar draws y fwrdeistref sirol.
Yn yr oes ddigidol presennol, mae cysylltedd symudol dibynadwy yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon ac i sicrhau nad yw preswylwyr na busnesau dan anfantais oherwydd signal ffonau symudol gwael neu annibynadwy.
Gweithiodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Streetwave, darparwr cydnabyddedig o arolygon signal ffonau symudol annibynnol. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys arolwg galw‑heibio o’r rhwydwaith ffyrdd ar draws y fwrdeistref sirol, gan gasglu data ar berfformiad rhwydweithiau symudol fel y’i profir ar y stryd.
Fel rhan o’r astudiaeth a gomisiynwyd hon, mae gwiriwr signal ffonau symudol cyhoeddus https://app.streetwave.co/coverage-checker/neath-port-talbot ar gael. Mae’n rhoi mynediad i breswylwyr a busnesau at fersiwn o ganlyniadau’r arolwg sy'n hygyrch i’r cyhoedd, gan ganiatáu iddynt wirio signal ffonau symudol yn eu hardal leol.
Mae’r arolwg yn darparu gwelededd o signal gweithredwyr ffonau symudol ar draws Castell-nedd Port Talbot ac yn ategu ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys gwiriwr signal ffonau symudol Ofcom https://www.ofcom.org.uk/mobile-coverage-checker a mapiau signal gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol eu hunain, sydd fel arfer yn seiliedig ar fodelau a ragwelir. Mewn cymhariaeth, mae arolwg Streetwave yn cofnodi perfformiad yn y byd go iawn, gan adlewyrchu’r hyn y mae defnyddwyr yn debygol o’i brofi mewn gwirionedd.