Datganiad I'r Wasg
Pum Tipiwr Anghyfreithlon yn Cael Gorchymyn i Dalu Bron i £7,000 ar ôl i Offer Fferm Ganabis Gael eu Gadael yng Nghwm.
02 Mehefin 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i erlyn pedwar dyn ac un fenyw a oedd yn gysylltiedig â thipio anghyfreithlon, ar ôl i olion fferm ganabis gael eu darganfod ar dir ger Resolfen.
Gyda'i gilydd, maent wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £6822 gan Lys Ynadon Abertawe ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru ddarganfod gohebiaeth ymhlith y gwastraff a oedd wedi cael ei ollwng ar ei dir.
Cafodd y pum unigolyn eu dedfrydu ar 21 Mai 2026. Mae rhagor o fanylion am yr unigolion dan sylw i'w gweld isod.
Roedd y gwastraff wedi cael ei waredu'n anghyfreithlon ar dir yng nghoedwig Rheola yng Nghwm Nedd, sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Drwy gyfuniad o dogfen a gafodd ei adael yn y lleoliad, lluniau teledu cylch cyfyng, ac adroddiadau gan dystion, ynghyd â thystiolaeth arall a llawer o holi, llwyddwyd i erlyn pum person i gyd.
Yn ystod gwrandawiad cynharach yn Llys Ynadon Abertawe ym mis Chwefror 2026, plediodd pedwar o'r diffynyddion yn euog o'r troseddau canlynol:
- plediodd Ian Jenkins yn euog o drosedd sy'n ymwneud â dyletswydd gofal am iddo beidio â sicrhau bod y gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithlon.
- plediodd Stephen Powell yn euog o fod yn gyfrifol am y cerbyd a ddefnyddiwyd i ollwng gwastraff a reolir yn anghyfreithlon.
- plediodd Keiron Powell a Darcy Thomas yn euog o ollwng gwastraff a reolir yn anghyfreithlon a chludo gwastraff heb drwydded cludydd gwastraff.
Plediodd Anthony Jones a dyn arall yn ddieuog, a chafodd eu hachosion eu rhestru ar gyfer treial.
Ar 21 Mai 2026, cynhaliwyd y treial lle y cafwyd Jones yn euog o beidio â sicrhau bod y gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithlon. Cafwyd y dyn arall yn ddieuog.
Mae'r unigolion canlynol bellach wedi cael eu dedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe:
Enw: Keiron Powell
Oed: 29
Cyfeiriad: Heol Greenwood, Castell-nedd
Cyhuddiad: Adran 33 (gollwng gwastraff), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Dirwy: £700
Costau: £850
Gordal Dioddefwr: £280
CYFANSWM: £1830
Enw: Stephen John Powell
Oed: 54
Cyfeiriad: Heol Greenwood, Castell-nedd
Cyhuddiad: Adran 33(5) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 5 (gwybod mai ei gerbyd ef oedd yn cael ei ddefnyddio)
Dirwy: £200
Costau: £532
Gordal Dioddefwr: £80
CYFANSWM: £812
Enw: Darcy Thomas
Oed: 30
Cyfeiriad: Heol Greenwood, Castell-nedd
Cyhuddiad: Adran 33 (gollwng gwastraff), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Dirwy: £700
Costau: £850
Gordal Dioddefwr: £280
CYFANSWM: £1830
Enw: Anthony Jones
Oed: 32
Cyfeiriad: Heol Wheatley, Castell-nedd
Cyhuddiad: Adran 34 (dyletswydd gofal), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Dirwy: £660
Costau: £482
Gordal Dioddefwr: £264
CYFANSWM: £1406
Enw: Ian Jenkins
Oed: 39
Cyfeiriad: Heb gartref sefydlog
Cyhuddiad: Adran 34 (dyletswydd gofal), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Dirwy: £330
Costau: £482
Gordal dioddefwr: £132
CYFANSWM: £944
Gorchmynnodd y llys i'r cerbyd tipio gael ei fforffedu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae'r Cyngor bellach yn asesu cyflwr y cerbyd cyn penderfynu beth fydd yn digwydd iddo (mae'n bosibl y caiff y cerbyd ei fathru).
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydlun, sef y Cyngh. Scott Jones:
“Mae gennym ardaloedd hardd o goedwigoedd a chefn gwlad ledled sir Castell-nedd Port Talbot a dylai pobl allu eu mwynhau'n gyfrifol heb ddod ar draws gwastraff peryglus fel hyn.
“Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn anfon neges gref, waeth pa mor fach rydych chi'n credu yw eich rôl chi mewn gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, y byddwch chi'n dal i gael eich dwyn i gyfrif.”
Dywedodd James Roseblade, Uwch-swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn dal i andwyo ein cymunedau, ein hamgylchedd, a'n heconomi. Mae mynd i'r afael â'r gweithgarwch hwn a dwyn troseddwyr i gyfrif ymhlith ein prif flaenoriaethau o hyd.
“Bydd troseddau gwastraff yn digwydd ar sawl ffurf, gan weithredu ar wahanol raddfeydd, a chostio miliynau o bunnau i fusnesau, tirfeddianwyr a threthdalwyr bob blwyddyn. Byddant hefyd yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd, i iechyd pobl ac i fywyd gwyllt.
“Rydyn ni'n croesawu penderfyniad y llys yn yr achos hwn, ac yn gobeithio y bydd yn anfon neges glir na fydd troseddau sy'n gysylltiedig â gwastraff yn cael eu goddef, y byddant yn cael eu cosbi, ac y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a'i bartneriaid yn parhau i gymryd camau gorfodi priodol yn erbyn pobl sy'n torri'r gyfraith.”