Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Mae De-orllewin Cymru wedi sicrhau lle yng ngham nesaf cronfa arloesi £500 miliwn ar draws y DU

04 Mehefin 2026

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi croesawu’r cadarnhad bod De-orllewin Cymru wedi symud ymlaen i’r cam nesaf o’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol, gyda'r potensial i gael mynediad i hyd at £20 miliwn i hybu sectorau ynni glân a deunyddiau uwch y rhanbarth.

LIPF

Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch ynni, gan gynnwys ynni gwynt alltraeth, hydrogen ac ynni diwydiannol glanach, yn ogystal â diogelwch deunyddiau, gan helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o adfer a phrosesu deunyddiau hanfodol. 

Mae’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol (LIPF) yn rhaglen flaenllaw gan Lywodraeth y DU, a ddarperir drwy UK Research and Innovation (UKRI), sy’n buddsoddi hyd at £500 miliwn i gryfhau economïau arloesi rhanbarthol ledled y wlad. 

Mae’r Gronfa, sy’n ganolog i Strategaeth Ddiwydiannol Fodern a Cynllun ar gyfer Newid y llywodraeth, yn dod â chynrychiolwyr lleol, busnesau a sefydliadau ymchwil ynghyd i adeiladu ar gryfderau rhanbarthol er mwyn creu swyddi newydd, hybu cynhyrchiant sy’n cael ei arwain gan arloesedd, a denu buddsoddiad pellach gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat i gymunedau ledled y DU. 

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd,

“Ar ran Cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, rydym yn falch o weld bod cais Clwstwr Arloesi Ynni a Deunyddiau De-orllewin Cymru wedi symud ymlaen i gam nesaf y broses. 

“Mae hwn yn garreg filltir sylweddol sy’n adlewyrchu cryfder ein partneriaeth ranbarthol a’n huchelgais gyffredin i yrru arloesedd, cefnogi diwydiant cynaliadwy, a chreu swyddi o ansawdd uchel ledled De-orllewin Cymru. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio ar y cyd i adeiladu ar y momentwm hwn a gwireddu potensial llawn y cyfle cyffrous hwn.”

Dywedodd yr Athro Syr Ian Chapman, Prif Weithredwr UKRI,

“Mae gan Dde-orllewin Cymru gryfderau sector sylweddol ym maes ynni glân a deunyddiau uwch, ac mae cyllid LIPF yn bod arweinwyr lleol yn gallu llywio gwaith i adeiladu arnynt.

“Dyna sut rydym yn creu swyddi da ac yn tyfu’r economi – nid mewn un ardal yn unig ond mewn nifer o gymunedau ledled y DU.”

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe,

“Mae’r garreg filltir bwysig hon yn adlewyrchu cryfder gwaith partneriaeth ar draws sectorau yn Ne-orllewin Cymru. Mae rhagoriaeth ymchwil hirsefydlog Prifysgol Abertawe ym maes ynni glân a deunyddiau uwch, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn cael ei chryfhau gan arbenigedd, gweledigaeth ac uchelgais ein partneriaid clwstwr, ac rydym yn gydweithredwr balch mewn menter sydd â photensial sylweddol i yrru arloesedd, meithrin sgiliau yn y dyfodol a chyflwyno manteision economaidd a chymdeithasol gwirioneddol i’n rhanbarth.” 

Dywedodd Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Sero Net Diwydiant Cymru,

“Rwy’n falch iawn bod De-orllewin Cymru wedi’i ddewis i symud ymlaen i gam datblygu portffolio’r Gronfa Partneriaeth Arloesi Lleol. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu cryfder clwstwr arloesi’r rhanbarth ac yn adeiladu ar etifeddiaeth rhaglenni LCRI, FLEXIS, RICE a Launchpad. 

“Diolch i ymrwymiad parhaus ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, bydd cyllid yr LIPF yn gam hanfodol wrth greu diwydiant gwydn ac arloesol yn y rhanbarth, yn cryfhau safle Cymru fel canolfan flaenllaw ar gyfer trawsnewid i ynni glân, ac yn parhau’n gonglfaen o sylfaen ddiwydiannol y DU.”

Dywedodd yr Athro Elwen Evans, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS),

“Mae PCYDDS yn falch o gefnogi’r bartneriaeth hon, sy’n dangos cryfder cydweithio ar draws diwydiant, llywodraeth leol ac academia wrth yrru trawsnewidiad De-orllewin Cymru i economi wyrddach drwy arloesedd, datblygu sgiliau a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.

“Mae’r cyfle hwn yn atgyfnerthu enw da cynyddol De-orllewin Cymru fel canolfan ar gyfer arloesedd diwydiannol cynaliadwy ac yn tynnu sylw at rôl prifysgolion wrth gefnogi diwydiannau’r dyfodol, datblygu talent, a galluogi twf economaidd cynhwysol.”

Bydd partneriaid lleol bellach yn gweithio gydag UKRI i ddatblygu cynigion manwl a gwneud y mwyaf o effaith y buddsoddiad.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth