Datganiad I'r Wasg
Penodi Karen Jones yn Gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Castell-nedd Port Talbot
05 Mehefin 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn falch o gyhoeddi bod Karen Jones wedi cael ei phenodi'n Gadeirydd Annibynnol Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Cwm Afan Uchaf.
Mae'r penodiad yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o roi Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU ar waith yn lleol, a fydd yn denu gwerth hyd at £20 miliwn o fuddsoddiad i Gwm Afan Uchaf dros y degawd nesaf er mwyn cefnogi gwaith adfywio, atgyfnerthu cymunedau, a grymuso pobl leol.
Daw Karen Jones â chyfoeth o brofiad ac arweinyddiaeth i'r rôl, a hithau wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn flaenorol. Mae ganddi hanes da o wasanaeth cyhoeddus, gweithio mewn partneriaeth, ac arwain mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ac mae mewn sefyllfa gref i arwain y rhaglen a sicrhau ei bod yn cynnig buddion ystyrlon a hirdymor i drigolion lleol.
Fel Cadeirydd, bydd Karen yn arwain y Bwrdd Cymdogaeth wrth iddo lywio gweledigaeth a rennir ar gyfer yr ardal, gan sicrhau bod pobl leol wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau. Bydd yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu Cynllun Balchder Bro 10 mlynedd a rhaglen fuddsoddi pedair blynedd gychwynnol, gan gydweithio'n agos â thrigolion, grwpiau cymunedol, busnesau, a phartneriaid.
Dywedodd Cadeirydd Rhaglen Balchder Bro, Karen Jones:
“Mae Rhaglen Balchder Bro yn gyfle pwysig i fuddsoddi. Mae Cwm Afan Uchaf yn lle hardd a bydd y rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddo ac sy'n ymweld ag ef.
“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda thrigolion, busnesau lleol a phartneriaid eraill i benderfynu pa brosiectau yw'r rhai pwysicaf i weithio arnynt nawr ac wrth i'r rhaglen fynd rhagddi dros y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt:
“Mae'n bleser gennym groesawu Karen yn Gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro. Bydd ei phrofiad, ei harweinyddiaeth, a'i dealltwriaeth ddofn o Gastell-nedd Port Talbot yn amhrisiadwy wrth ddod â phartneriaid ynghyd a sicrhau bod y rhaglen hon yn cynnig buddion go iawn i Gwm Afan Uchaf.”
Dywedodd AS Aberafan Maesteg, Stephen Kinnock:
"Dwi wrth fy modd fod Karen Jones wedi cytuno i wasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro. Mae Karen yn dwyn yn ei sgil ymroddiad enfawr i Flaenau Dyffryn Afan, ac angerdd gwirioneddol dros newid a arweinir gan y gymuned.
“Mae Balchder Bro'n ymwneud â rhoi pobl leol wrth galon gwneud penderfyniadau, a gwn y bydd Karen yn chwarae rhan hanfodol mewn helpu i ddarparu dyfodol gwell i gymunedau ar draws y cwm.”
Menter genedlaethol sydd â'r nod o helpu cymunedau ledled y DU i ffynnu yw Rhaglen Balchder Bro. Yn lleol, bydd yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth allweddol: creu lleoedd sy'n ffynnu, atgyfnerthu cymunedau, a grymuso pobl i lywio dyfodol eu hardal.
Bydd y Bwrdd Cymdogaeth, dan arweiniad Karen Jones, yn cyflawni rôl ganolog o ran sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn cael ei arwain gan y gymuned, yn dryloyw, ac yn cael effaith barhaol.
Ariennir y fenter hon gan Lywodraeth y DU drwy Raglen Balchder Bro.
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Balchder Bro i'w gweld yma: https://www.npt.gov.uk/cy/busnes/rhaglenni-cyllid-strategol/rhaglen-balchder-bro/