Datganiad I'r Wasg
Arddangosfa Newydd yn Amgueddfa Castell-nedd yn Dod â Hanes Lleol yn Fyw
08 Mehefin 2026
Bydd arddangosfa newydd gyffrous yn dod â hanes cyfoethog Castell-nedd a Llansawel yn fyw dros yr haf eleni.
Gyda chefnogaeth gan Gronfa Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i benodi'r dylunwyr a leolir yng Nghymru Made Roughley Ltd. i weithio gyda ni i gynhyrchu arddangosfa deithiol ryngweithiol.
Bydd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd mewn tri lleoliad o gwmpas ardal Castell-nedd rhwng mis Gorffennaf a Hydref eleni, gan ddechrau yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd ar 10 Gorffennaf cyn symud i Raeadrau Aberdulais ar gyfer mis Awst. Yna bydd yr arddangosfa'n cael cartref yng Nghanolfan Ymwelwyr newydd Parc Gwledig Gnoll hyd at ddiwedd mis Medi.
Mae ‘Llifo Drwy Amser: Pobl, Lle a Newid' yn arddangos straeon, gwrthrychau a phrofiadau digidol am hanes Castell-nedd o lygad Afon Nedd ym Mhontneddfechan i'w haber yn Llansawel.
Bydd yn archwilio themâu a straeon sy'n rhoi sylw i esblygiad y dref ar hyd yr oesau, o ddarganfyddiadau cynhanesyddol i'w threftadaeth ddiwydiannol drawiadol a dylanwadol.
Drwy gyfrwng y prosiect dyfeisgar a deniadol hwn, bydd modd i ymwelwyr gael mynediad i wrthrychau o gasgliad Amgueddfa Castell-nedd, a'u profi; dyw rhai ohonynt heb gael eu harddangos ers degawdau.
Law yn llaw â gwrthrychau o gasgliad y fwrdeistref a phaneli darluniadol ac addysgiadol, bydd ‘Llifo Drwy Amser: Pobl, Lle a Newid' yn ymgorffori cynnwys digidol rhyngweithiol hefyd, a gynlluniwyd i alluogi i bobl gael mynediad o hirbell i'r arddangosfa, er budd pobl leol ac ymwelwyr.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys realiti estynedig, modelau 3D, delweddau digidol, darluniadau a chodau QR fydd yn galluogi defnyddwyr i gael gafael ar ragor o wybodaeth. Bydd cynnwys digidol yr arddangosfa ar gael fel adnodd ar lein ac fe'i hychwanegir at gasgliad y fwrdeistref ar gyfer galluogi defnydd i'r dyfodol gan y cyngor a'r gymuned.
Mae'r prosiect yn cefnogi uchelgais Strategaeth Ddiwylliannol Castell-nedd Port Talbot, sy'n gosod gweledigaeth gyfun ar gyfer diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon er mwyn gwella llesiant, cryfhau hunaniaeth a chefnogi twf economaidd. Mae hefyd yn cynnwys partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Sant Giles drwy'u prosiect Hyb Treftadaeth Cymuned Aberdulais a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan ddarparu llwybrau newydd i mewn i dreftadaeth drwy ymgysylltu cymunedol i bobl sy'n wynebu cyni gan gynnwys tlodi, trosedd a gwahaniaethu.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant:
“Rydyn ni wrth ein bodd o dderbyn y cyllid hwn oddi wrth Gronfa Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru. Bydd yr arddangosfa hon yn gyfle rhagorol i arddangos hanes anhygoel Castell-nedd, o'i gwreiddiau hynafol i'w chryfder diwydiannol. Dyma ffordd arall i ni annog pobl i ddod i'r dref, dathlu ein hunaniaeth, a chryfhau Castell-nedd fel cyrchfan diwylliannol.
“Mae hefyd yn cefnogi'r uchelgeisiau a amlinellwyd yn ein Strategaeth Ddiwylliant, a'n hymroddiad i sicrhau y gall treftadaeth Castell-nedd gael ei mwynhau gan genedlaethau heddiw a'r dyfodol.”