Datganiad I'r Wasg
Gwahodd trigolion a chynrychiolwyr cymunedau i ymuno â Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro
09 Mehefin 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd trigolion a chynrychiolwyr cymunedau o Gwm Afan Uchaf i wneud cais i ymuno â Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro, er mwyn helpu i lywio dyfodol eu cymunedau.
Daw'r alwad am aelodau Bwrdd yn dilyn penodiad Karen Jones yn Gadeirydd Annibynnol yn ddiweddar, sy'n garreg filltir allweddol yn y gwaith o sefydlu'r arweinyddiaeth leol y bydd ei hangen i gynnal y rhaglen.
Menter fawr gan Lywodraeth y DU yw Rhaglen Balchder Bro, a bydd yn denu gwerth hyd at £20 miliwn o fuddsoddiad i Gwm Afan Uchaf dros y degawd nesaf. Ei nod yw cefnogi gwaith adfywio, atgyfnerthu cymunedau, a grymuso pobl leol i gyflawni rôl ganolog mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Bydd y Bwrdd Cymdogaeth wrth wraidd y gwaith hwn, yn gyfrifol am bennu'r weledigaeth ar gyfer yr ardal a phenderfynu ar y ffordd y caiff cyllid ei fuddsoddi. Caiff y Bwrdd ei arwain gan drigolion, gan ddod â phobl ynghyd sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal er mwyn sicrhau mai'r cymunedau fydd wrth y llyw pan gaiff penderfyniadau eu gwneud.
Dywedodd Karen Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth:
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl leol gymryd rhan a helpu i lywio dyfodol Cwm Afan Uchaf. Rydyn ni am glywed gan drigolion sy'n frwd dros eu cymunedau ac sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth.”
Bydd aelodau'r Bwrdd yn gweithio ochr yn ochr â thrigolion, sefydliadau cymunedol, a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i wneud y canlynol:
• Datblygu gweledigaeth 10 mlynedd a rennir ar gyfer yr ardal
• Llunio rhaglen fuddsoddi pedair blynedd
• Goruchwylio'r ffordd y caiff prosiectau lleol eu cyflawni
• Sicrhau bod y rhaglen yn arwain at fuddion ystyrlon a pharhaol
Mae'r Cyngor yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd:
• Yn byw neu'n gweithio yng Nghwm Afan Uchaf
• Yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned leol
• Yn meddu ar wybodaeth leol, wedi cael profiad bywyd, neu'n cymryd rhan yn y gymuned
Nid oes angen profiad blaenorol o fod yn aelod o fwrdd, a rhoddir cymorth er mwyn helpu'r aelodau i gymryd rhan yn llawn.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steven Hunt:
“Nod Rhaglen Balchder Bro yw sicrhau bod pobl leol wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i drigolion gael llais uniongyrchol yn y ffordd y bydd y buddsoddiad sylweddol hwn o fudd i'w cymunedau.”
Dywedodd AS Aberafan Maesteg, Stephen Kinnock:
"Mae Balchder Bro yn gyfle go iawn i bobl leol roi siâp ar ddyfodol Blaenau Dyffryn Afan. Rydyn ni eisiau dod â phreswylwyr, busnesau, arweinwyr y gymuned a gwirfoddolwyr ynghyd, a phob un yn teimlo'n angerddol dros yr ardal ac eisiau helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
"Os ydych chi'n becso am ddyfodol Blaenau Dyffryn Afan ac eisiau chwarae rhan yn ei siapio, hoffwn eich annog yn daer i wneud cais i ymuno â'r Bwrdd Cymdogaeth."
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl a sut i wneud cais, e-bostiwch place@npt.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw dydd Gwener 26 Mehefin am 12pm.
Ariennir y fenter hon gan Lywodraeth y DU drwy Raglen Balchder Bro.
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Balchder Bro i'w gweld yma: Rhaglen Balchder Bro – Cyngor CnPT
- Diwedd -
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â media@npt.gov.uk